Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.00-13.45)

2.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 1: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

          Simon Neale, Rheolwr Strategaeth a PholisiAnsawdd y tir

Richard Davies, Cynghorydd Uned Strategol Cymru ar ansawdd y tir

 

CAP(4)-03-11 Papur 2: Cyngor Cefn Gwlad Cymru

          Brian Pawson, Uwch-gynghorydd amaethyddol

          Dr Ieuan Joyce, Aelod o’r cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

(13.45-14.30)

3.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

 

CAP(4)-03-11 Papur 3: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (papur i ddilyn)

          Trystan Edwards, Cynghorydd ar Ffermio a Chefn Gwlad Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 4: Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

          Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB.  

 

3.2     Cytunodd yr RSPB i ysgrifennu at y Pwyllgor mewn ymateb i’r cwestiwn am arian Llywodraeth Cymru a ofynnwyd gan Antoinette Sandbach.

(14.30-15.15)

4.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan y Grwp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt a Chymdeithas y Pridd

 

CAP(4)-03-11 Papur 5: Y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG)

          Glenda Thomas, Cyfarwyddwr FWAG Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 6: Cymdeithas y Pridd

          Emma Hockridge, Pennaeth Polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG) a Chymdeithas y Pridd

 

4.2     Cytunodd Cymdeithas y Pridd i rannu’r gwerthusiad o’r prosiect ‘Food for Life Partnership’, a ariannwyd gan y Loteri, pan gaiff ei gyhoeddi.  

                                  

Trawsgrifiad