Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Grŵp i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

CAP(4)-02-11 papur 1

Alun Davies AC, Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O'Sullivan, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig

Terri Thomas, Pennaeth yr Is-adran Polisi Cefn Gwlad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog a gytunodd i rannu gwaith modelu mewn perthynas â thaliadau yn seiliedig ar ardal.

(10:30-11:15)

3.

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Tystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd

Betty Lee, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

Jean-Bernard Benhaiem, Rheolwr y RhaglenPolisïau’r UE

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd drwy gyfrwng fideo-gynhadledd. Cytunodd y Comisiwn i ddarparu gwybodaeth bellach am effaith y cynigion ar y sector llaeth ac, yn benodol, y ddarpariaeth ar gyfer contractau llaeth ysgrifenedig. Cytunodd hefyd i ddarparu gwybodaeth bellach am y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Arloesi mewn Cynhyrchiant Amaethyddol a’r wobr ar gyfer cydweithio lleol, arloesol mewn ardaloedd gwledig.

Trawsgrifiad