Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Croesawyd Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) i'r cyfarfod. Croesawyd Adam Price, AC hefyd yn ôl o'i gyfnod tadolaeth.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant.

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 4 Mehefin yn gofnod cywir.

 

2.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad 2017-18

Cofnodion:

Cyflwynodd Eric Gregory, Cadeirydd ACARAC, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor, yn unol â chylch gorchwyl ACARAC. Soniodd am nifer o agweddau ar brofiad y Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol. Yn benodol, tynnodd sylw at gofnod ardderchog y Comisiwn o ran gweithredu ar argymhellion yr Archwiliad Mewnol, rheoli risg yn gadarn a'r ymagwedd hyblyg tuag at reoli prosiectau sy'n cynnwys defnyddwyr wrth ddatblygu systemau.

 

Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau ar y datganiad llywodraethu da a chlir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn yn dilyn blwyddyn gyntaf y Prif Weithredwr yn y swydd, a'r effaith gadarnhaol ar ddarllenadwyedd arddull newydd yr adroddiad blynyddol.

 

Nododd y Comisiynwyr Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor.

 

3.

Rhaglen diwygio'r Cynulliad

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad a chrynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill.

 

Ystyriodd y Comisiwn ganfyddiadau'r ymgynghoriad a gwnaeth nifer o benderfyniadau wrth baratoi ar gyfer gwneud cynigion deddfwriaethol, neu lunio eu dull o wneud y cynigion hynny.  Cytunodd:

·         mewn egwyddor, i gydweithio â Llywodraeth Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ynghylch cynigion i newid rhyddfraint y Cynulliad.

·         i gynnig deddfwriaeth ar y rhyddfraint a'r newid enw ar gyfer ei weithredu cyn etholiad 2021. Gallai ail Fil ar y system etholiadol a'r maint ddilyn os yw consensws trawsbleidiol ar y materion hynny yn dod i'r amlwg;

·         gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16; ac

·         eithrio rhai materion polisi o gwmpas gwaith diwygio'r Cynulliad: pleidlais carcharorion, hawliau pleidleisio i drigolion cyfreithlon Cymru waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, a rhannu swyddi i'r Aelodau.

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr gymryd dau fater penodol i'w trafod gyda'u grwpiau a rhoi adborth cyn diwedd y tymor. Y rhain oedd:

        y disgrifydd ar gyfer Aelodau ar ôl newid yr enw; a'r

        mater o anghymwyso mewn perthynas ag aelodaeth o Dŷ'r Arglwyddi. Cafodd hyn ei argymell gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol presennol.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r Llywydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn cyfleu penawdau'r ymgynghoriad, a'r penderfyniadau a wnaeth am ei strategaeth ddeddfwriaethol, ynghyd â chwmpas eang y Bil cyntaf ar ddiwygio etholiadol, cyn diwedd y tymor. Cytunwyd y bydd crynodeb o brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn ychydig wythnosau, gydag adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

 

4.

Strategaeth y Gyllideb - Cyllideb y Comisiwn 2019-20

Cofnodion:

Fel rhan o ddatblygiad parhaus Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20, ystyriodd y Comisiynwyr nifer o agweddau sy'n dod i'r amlwg o ran eu dull o gyllidebu, a rhoddwyd cyfarwyddyd er mwyn i'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft barhau, yn barod i'w hystyried ym mis Medi.

 

Roedd eu hystyriaethau'n cynnwys:

        cytuno ar ymateb i'r llythyr ymgynghori gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau at y Llywydd ar ail ymgynghoriad y Bwrdd ar gynigion sy'n deillio o adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau;

        rhagolygon ar gyfer 2018-19;

        cyflwyno cyllideb ddrafft 2019-20, yng ngoleuni'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid; a

        phrosiectau blaenoriaeth posibl ar gyfer 2019-20.

 

Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur gwaith hwn.  Caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi.

 

5.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2017-18

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y drafft o'u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn diwedd tymor yr haf a'i gyhoeddi ar-lein.

 

6.

Adroddiad Blynyddol Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Joyce Watson fel y Comisiynydd Cyfrifol, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

7.

Contract glanhau'r Comisiwn

Cofnodion:

Dychwelodd y Comisiynwyr at y mater o opsiynau, a ystyriwyd gyntaf yn y cyfarfod ym mis Mehefin, ar gyfer adnewyddu'r contract gwasanaethau glanhau presennol, yn enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau staff y contract.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ymestyn y contract cyfredol am flwyddyn er mwyn mapio'n llawn y gofynion ar gyfer y contract a thendro'r contract pan gaiff fframwaith nesaf y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei gyhoeddi.

8.

Papurau i’w nodi:

8.1

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol diweddaraf.

 

8.2

Strategaeth Buddsoddi'r Bwrdd Pensiynau

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y strategaeth fuddsoddi a gytunwyd gan y Bwrdd Pensiynau.

9.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Swyddfa Brwsel - Nododd y Comisiynwyr fod Llywodraeth Cymru yn fodlon parhau â'r trefniant presennol ar gyfer Swyddfa'r Comisiwn ym Mrwsel, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Cymru, Brwsel, ar yr un telerau tan ddiwedd mis Rhagfyr 2020.

 

Sesiynau ymwybyddiaeth seiber gan yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau - Nodwyd bod y nifer sy'n manteisio ar sesiynau briffio ymwybyddiaeth seiber yn gymysg, gofynnwyd i'r Comisiynwyr danlinellu ei bwysigrwydd gyda'u grwpiau.

 

Bwrdd Pensiynau - Cytunodd y Comisiynwyr y gellid ymgymryd â threfniadau ar gyfer cynrychiolydd y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau y tu allan i'r cyfarfod os oes angen.