Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 15 Mai. |
|
Ystyriaethau o ran y gyllideb (Saesneg yn unig) Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr baratoadau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol
2018-19. Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun presennol, sydd wedi gweld lefel y
newid yn mynd yn fwy na’r disgwyl, gyda chynnydd yn y pwysau a’r galw ar
Gomisiwn y Cynulliad. Cydnabuont fod newidiadau pellach ar y gorwel a bod angen
dal y ddysgl yn wastad rhwng cefnogi’r rhain a pharhau i ddarparu gwasanaethau
rhagorol i’r Aelodau ac i bobl Cymru. Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth am gyfeiriad y gwaith a gwnaed cais
am wybodaeth ychwanegol i gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol. Cytunodd y Comisiynwyr y caiff y gyllideb ddrafft derfynol ei gosod erbyn
diwedd mis Medi yn dilyn ystyriaeth bellach. |
|
Anghenion ar gyfer y dyfodol Eitem
lafar Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar waith i ddiwallu anghenion o ran yr
adeilad yn y dyfodol a nodwyd y sgyrsiau archwiliadol sy’n cael eu cynnal â
thirfeddianwyr. Cytunwyd ar gael rhagor o wybodaeth cyn toriad yr haf. |
|
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad Cofnodion: Yn y cyfarfod blaenorol, wedi ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus
ar enw y Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn dychwelyd at fater
rhaglen ddiwygio’r Cynulliad, a’r cynigion deddfwriaethol y gallai’r Comisiwn
ddymuno eu dilyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn o ganlyniad i bwerau newydd a
ddatganolir o dan Ddeddf Gymru 2017. Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn trafod cwmpas llawn y rhaglen ddiwygio
bosibl a’r cynigion deddfwriaethol y maent yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i
adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad ddod
i law yn hydref 2017. Gallai’r trafodaethau hyn gwmpasu pecyn ehangach o ran
diwygio trefniadau gweithredol megis y rheolau anghymwyso, trefniadau
etholiadol a’r system bwyllgora. Cytunodd y Comisiynwyr i gynnig deddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad yn
Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn diwedd y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau yn
cael eu galw’n Aelodau o Senedd Cymru/Welsh Parliament Members. Wrth arwain y
gwaith hwn ar ran y sefydliad, bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau’r consensws
gwleidyddol mwyaf ar draws y pleidiau i gyd. Yn y cyfamser, bydd y Cynulliad yn parhau i gael ei alw yn swyddogol wrth
ei enw statudol presennol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn osgoi
dryswch ac i leihau costau ac anghyfleustra. Bydd y Comisiwn yn cynllunio’r newid er mwyn sicrhau bod y gost cyn lleied
ag y bo modd, gan newid enw’r Cynulliad yn unig a pheidio â chynnal unrhyw
ailfrandio cyffredinol na newid y logo. Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad,
ynghyd â datganiad ysgrifenedig ffurfiol i’r Cynulliad gan y Llywydd yn
egluro’r penderfyniad a wnaed a sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu symud ymlaen. |
|
Adroddiad y Tasglu Digidol Eitem
lafar Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad drwy grynodeb byr o rôl a gwaith y
Tasglu. Trafodwyd rhai o’r argymhellion a ragwelir yn yr adroddiad sydd i’w
gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, a chytunwyd i ystyried eu hymateb yn y
cyfarfod ar 17 Gorffennaf. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch Eitem lafar Cofnodion: Ar gais y Comisiynwyr, darparwyd diweddariad ar ddiogelwch ffisegol a
seiber. Nododd y Comisiynwyr fod ymwybyddiaeth o risgiau a phrotocolau
diogelwch yn agwedd bwysig ar fod yn ddiogel ac y dylai’r holl Aelodau a’u
staff gael eu hannog i fanteisio ar y hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch
sydd ar gael. |
|
Adroddiad a chyfrifon blynyddol Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon
Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 hyd at 31
Mawrth 2017. Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau i
ystyried sylwadau gan Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a
chan Gomisiynwyr; ynghyd â phroses prawfddarllen derfynol, fformatio a brandio. Caiff y fersiwn derfynol ei gosod yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn diwedd tymor
yr haf, a bydd ar gael ar-lein a thrwy nifer cyfyngedig o gopïau argraffedig. |
|
Adroddiad ar brif ddangosyddion perfformiad corfforaethol (Ebrill 16-Mawrth 17) Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr Adroddiad cyntaf y Pumed Cynulliad ar Ddangosyddion
Perfformiad Allweddol Corfforaethol. Roedd yn nodi perfformiad Comisiwn y
Cynulliad yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, yn ôl y
nodau strategol a bennwyd. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a chytunwyd y dylid ei gyhoeddi. |
|
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau Cofnodion: Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau.
Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a
ffafrir gan y Panel Dethol. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Cynhaliwyd ymarfer recriwtio agored i lenwi swydd wag ar y Bwrdd Taliadau.
Trafododd y Comisiwn yr argymhelliad a chytunodd ar benodi’r ymgeisydd a
ffafrir gan y Panel Dethol. |