Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd.

 

2.

Adolygiad o Gofnod y Trafodion - Adroddiad Cynnydd ac Argymhellion

Cofnodion:

Roedd Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer dull y Comisiwn o ran adrodd am y trafodion. Roedd y Comisiwn wedi cael trosolwg o’r camau a gymerwyd hyd yn hyn.

 

Holodd y Comisiynwyr am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer newidiadau a oedd yn cael eu hargymell, a pha mor fuan y byddai gwahanol agweddau yn cael eu darparu. Roedd ffocws y cynigion ar wneud y mwyaf o werth y Cofnod (sef y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau) drwy ei wneud yn fwy hygyrch, yn ail-ddefnyddiadwy ac yn chwiliadwy gan gynyddu’r defnydd ohono, a chan wneud prosesau mor effeithlon â phosibl tra’n cynnal ymddiriedaeth o ran ansawdd. Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig mewn sut mae staff yn cael eu defnyddio’n effeithiol i ateb y galw amrywiol.

 

Dangosodd y Comisiynwyr gefnogaeth hefyd i’r syniad o edrych ar y datrysiadau TG mwyaf cost effeithiol, gan gynnwys addasu systemau a ddefnyddir yn llwyddiannus eisoes mewn mannau eraill. Mynegwyd hefyd bwysigrwydd bod yn glir ynghylch statws y gwahanol gyhoeddiadau, er enghraifft fersiynau dros dro a fersiynau terfynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

       gyhoeddi drafft Cofnod y Trafodion yn gynharach (a hynny’n weithredol o’r Pumed Cynulliad);

       symud cyhoeddi y fersiwn cwbl ddwyieithog  ymlaen, a hynny’n weithredol o’r Pumed Cynulliad, ac archwilio opsiynau’r farchnad ar gyfer darparu hyn; ac

       archwilio ateb TG newydd yn fwy manwl.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar gan y Pwyllgor Archwilio 16/11/15

Cofnodion:

Roedd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod ar 16 November. Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr.

 

Cyflwynwyd adroddiadau i’r Pwyllgor ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Sicrhau Ansawdd Archwilio/DPP, ac roeddent wedi cydnabod cryfder gwaith y Comisiwn ar ymgysylltu gan bwysleisio pa mor bwysig ydyw i lwyddiant y Cynulliad. Roedd aelodau’r pwyllgor hefyd wedi ystyried cynllun Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2015-16.

 

 

4.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater arall.