Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datgan Buddiannau

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi.

 

2.

Trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad - croeso, ymsefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer trefniadau croesawu ac ymsefydlu’r Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.

 

Ystyriodd y Comisiynwyr hefyd argymhellion ar gyfer rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus i’r Aelodau a’u staff cymorth yn ystod y Pumed Cynulliad, yn dilyn adolygiad trylwyr o raglen DPP y Pedwerydd Cynulliad.

 

Roedd y rhain wedi'u seilio ar:

  • y gwersi a ddysgwyd a’r sylwadau a gafwyd gan yr Aelodau ynghylch y trefniadau ar ôl etholiad 2011;
  • casgliadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth a gynhaliwyd yn 2015, a oedd yn cynnwys cwestiwn am droglwyddo i’r Pumed Cynulliad;
  • trafodaethau â’r Aelodau (fel rhan o adolygiad DPP);
  • profiad Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ddiweddar;
  • trafodaethau cychwynnol gyda’r grwpiau plaid; ac
  • adborth gan fforwm y Cadeiryddion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Medi.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid defnyddio’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth y trefniadau ymsefydlu a DPP yn ystod y Pedwerydd Cynulliad a’u bwydo i ddatblygiadau’r Pumed Cynulliad. Nododd y Comisiynwyr fod yr Aelodau a'u staff cymorth yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd DPP yn fawr, a bod hyn i’w weld yn yr arolygon bodlonrwydd. Cytunwyd y byddai cyfleoedd yn cael eu cynnig i'r Aelodau yn y dyfodol mewn ffordd sy'n cydnabod eu holl gyfrifoldebau amrywiol i sicrhau bod eu hamser yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol a chan sicrhau gwerth am arian.

 

3.

Arolwg bodlonrwydd yr Aelodau

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn ganlyniadau pedwerydd arolwg blynyddol yr Aelodau a’u staff cymorth.

 

Ymatebodd 33 o Aelodau a 107 o staff cymorth i'r arolwg ac, o’i gymharu ag arolwg 2014, gwelwyd bod sgôr y rhan fwyaf o'r meysydd gwasanaeth wedi codi.

 

Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y bydd y sylwadau a gafwyd yn werthfawr wrth iddynt baratoi dull strategol o wella gwasanaethau ymhellach a chytunwyd y dylid rhannu canlyniadau'r arolwg gyda’r Aelodau a’u staff.

 

4.

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft 2016-17

Eitem lafar.

 

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn, a oedd wedi ei gyhoeddi.

 

Trafododd y Comisiynwyr brif argymhellion yr adroddiad a chytunwyd i dderbyn pob un ohonynt ac ymateb yn gadarnhaol i'r Pwyllgor Cyllid.

 

5.

Unrhyw fater arall

Papur i'w nodi: Diweddariad ar Newid Cyfansoddiadol

 

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau’n holi am ymgynghoriad arfaethedig ynghylch sefydlu senedd ieuenctid.  O gofio'r ymateb cadarnhaol a gafwyd i’r rhaglen ymgysylltu â phobl ifanc, byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol gyd-fynd â’r rhaglen honno ac adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed yn y cyswllt hwnnw.