Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6565 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiad o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 9 Gorffennaf yn gofnod cywir.

 

2.

Cyllideb 2016-17

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr ddrafft terfynol dogfen y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Roeddent yn teimlo bod y ddogfen yn adlewyrchu'r strategaeth a'r dull gweithio yr oeddent wedi cytuno arnynt cyn toriad yr haf.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar y drafft i'w osod, gan ddiolch i'r swyddogion am yr holl waith a oedd wedi'i wneud er mwyn paratoi.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ailwampio'r Siambr

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf, yn gryno, gan y Cyfarwyddwr Adnoddau am yr hyn a gyflawnwyd yn ystod toriad yr haf o ran y cynlluniau i ailwampio'r Siambr.

 

Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb arbennig yn yr hyblygrwydd a'r manteision y byddai'r darpariaethau newydd yn eu cyflwyno. Croesawyd y wybodaeth a'r manylion am y cynllun cyfredol yn arwain at gyfnod y Diddymiad/toriad y Pasg 2016.

 

 

4.

Gosod Teledu Cylch Cyfyng newydd

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynigion i osod system Teledu Cylch Cyfyng newydd ar Ystâd y Cynulliad, gan ofyn am ragor o wybodaeth i'w galluogi i wneud penderfyniad terfynol.

 

 

5.

Dodrefn newydd

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiwn wybodaeth a oedd wedi'i darparu ynglŷn â'r angen i adnewyddu swyddfeydd yn Nhŷ Hywel a ddefnyddir gan Aelodau'r Cynulliad.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gwaith o adnewyddu swyddfeydd yr Aelodau fod yn rhan o'r rhaglen dreigl barhaus o waith cynnal a chadw ar ystâd y Cynulliad.

 

 

 

 

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf a Chofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 9 Gorffennaf 2015

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Lywydd wybod i'r Comisiwn am gyfarfod diweddaraf Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad, a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf.

Nododd mai prif ddiben y cyfarfod oedd cytuno ar ddrafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon. Teimlai'r Pwyllgor fod yr Adroddiad Blynyddol yn ddogfen nodedig a chynhwysfawr, a chroesawodd y ffigur alldro terfynol sef tanwariant o 0.1%.

 

Nododd y Comisiwn y cofnodion.

 

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cafodd y materion canlynol eu hystyried, a chytunwyd arnynt, trwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:

  • Adroddiad y Comisiwn i Aelodau ar gyfer 2014-15.