Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6565
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad gan Angela
Burns AC. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiad o
fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion 25
Mehefin yn gofnod cywir. |
|
Cyllideb Ddrafft 2016-17 Cofnodion: Cyflwynodd
Nicola Callow ddrafft cyntaf cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2016-17 i’r
Comisiynwyr. Croesawodd
y Comisiynwyr y ddogfen, yr oeddent yn teimlo ei bod yn adlewyrchu’n dda
strategaeth y gyllideb a gytunwyd ganddynt ym mis Ebrill. Ffocws dogfen gyllideb 2016-17 yw: • Cefnogi’r galwadau
cynyddol a wynebir gan y Cynulliad, gan gynnwys y rhaglen gynyddol o waith
deddfwriaethol; • Darparu rhaglen newydd ac
estynedig o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr Aelodau, gan gynnwys Aelodau
Cynulliad newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, yn seiliedig ar werthusiad o
ganlyniadau DPP hyd yma; • Cefnogi newid
cyfansoddiadol, y disgwylir iddo ddigwydd ar raddfa fawr yn sgil cyhoeddiad
Deddf Cymru 2014 a chyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi 2015; • Parhau â gwaith
ymgysylltu a hyrwyddo’r Comisiwn, gyda phwyslais ychwanegol i adlewyrchu’r
datblygiadau cyfansoddiadol newydd; • Gwerth am arian - mae gan
y Comisiwn record gref o ran cyflawni gwerth am arian law yn llaw â’i nodau a’i
flaenoriaethau strategol, a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau’r
Pumed Cynulliad; a • Datblygu gwasanaeth
technolegol – parhau i newid a gwella Gwasanaethau’r Cynulliad a’r ffyrdd rydym
yn cefnogi Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu rolau. Cytunodd y
Comisiynwyr, yn ogystal â diweddaru’r drafft i adlewyrchu canlyniad Adolygiad o
Wariant y DU a’r Gyllideb, y byddai’n bwysig bod y drafft nesaf yn cynnwys
llawer o ddiagramau a darluniau er mwyn sicrhau bod yr un lefel o eglurder a
gyflwynwyd yng nghyllideb 2015-16 yn cael ei gyflawni eto eleni. Cytunodd y
Comisiwn i dderbyn dogfen wedi’i diweddaru i’w hystyried ym mis Medi, cyn bod
angen i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod. |
|
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Mae’r
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i’r
Comisiwn bob blwyddyn. Eric Gregory, sef Cadeirydd y Pwyllgor, a gyflwynodd yr
Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014-15 i’r Comisiynwyr a thynnodd sylw at feysydd
allweddol y mae’r Pwyllgor wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn.
Rhoddodd hefyd amlinelliad o’r meysydd y mae’r Pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio
arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod. Gofynnodd y Comisiynwyr am fater diweddar a godwyd gan Swyddfa Archwilio
Cymru mewn perthynas â chofnodi gwyliau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad yng
nghyfrifon y Comisiwn. Maent yn cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan swyddogion. Dywedodd y Comisiynwyr pa mor werthfawr yw hi i gael mewnbwn gan
gynghorwyr annibynnol y Comisiwn, a’u bod yn teimlo bod y safbwynt allanol yn
ddefnyddiol iawn. Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad annibynnol. |
|
Amnewid teledu cylch cyfyng Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r gofyniad i amnewid y system teledu cylch
cyfyng. Roedd y
Comisiwn yn cefnogi’r angen i wneud y gwaith a chytunwyd y dylid cyflwyno achos
busnes manwl iddynt ym mis Medi. |
|
Penodi Aelodau y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Bydd
penodiadau aelodau presennol y Bwrdd Taliadau yn dod i ben ar 20 Medi 2015.
Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn nodi proses a chanlyniadau’r ymarfer
recriwtio a dewis diweddar i ddewis Cadeirydd ac aelodau newydd i’r Bwrdd. Mae
penodiadau i’r Bwrdd Taliadau yn cael eu gwneud gan y Comisiwn yn unol â Mesur
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Soniodd y Comisiynwyr am
amrywiaeth drawiadol o brofiad ac arbenigedd y pum unigolyn a gafodd eu dewis. Ar ôl
bodloni eu hunain na ddylai neb o’r rhai oedd yn cael eu penodi gael eu
gwahardd rhag bod yn aelodau’r Bwrdd, penododd y Comisiwn:
Bydd y
penodiadau newydd yn dechrau o 21 Medi 2015. Cytunodd y
Comisiwn i gyhoeddi’r papur a’i anfon at arweinwyr y pleidiau a holl Aelodau’r
Cynulliad. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Trafodwyd a
chytunwyd y materion canlynol drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn: • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2014-15 • Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol
2014-15 • Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r
Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2014-15. Hwn oedd
cyfarfod olaf y Comisiwn cyn toriad yr haf. Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Medi
pryd y bydd y Comisiynwyr yn ystyried dogfen gyllideb wedi’i diweddaru. |