Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin.

 

2.

Diddymu'r Pedwerydd Cynulliad a Throsglwyddo i’r Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Bu’r Comisiynwyr yn trafod papur a oedd yn rhoi gwybodaeth ar gyfer llywio penderfyniadau sy'n ymwneud â pharatoadau ar gyfer diddymu’r Pedwerydd Cynulliad.

 

Roedd y penderfyniad cyntaf yn ymwneud â defnyddio adnoddau'r Cynulliad yn ystod y cyfnod diddymu ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr y dewisiadau, a chytunwyd i ganiatáu defnyddio rhywfaint o adnoddau cyfyngedig y Comisiwn er mwyn i Aelodau gwblhau gwaith achos a oedd yn weddill yn unig. Mae hyn yn ystyried y cyfyngiadau sydd eu hangen i weithredu cysyniad sylfaenol y diddymiad - sef sicrhau’r un chwarae teg i’r holl ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu hethol.

 

Caiff rhagor o wybodaeth ei rhoi cyn toriad yr haf, a chaiff canllawiau eu paratoi ar gyfer Aelodau a’u cyhoeddi yn ystod tymor yr hydref i alluogi Aelodau i baratoi ar gyfer y diddymiad mewn modd amserol. Tynnodd y Comisiynwyr sylw hefyd at bwysigrwydd sicrhau bod canllawiau ar gyfer staff cymorth hefyd ar gael i Aelodau'r Cynulliad (fel cyflogwyr).

 

Trafododd y Comisiynwyr hefyd argymhelliad gan y Bwrdd Taliadau ynglŷn â darparu gwasanaeth all-leoli / cynghori mewn perthynas ag etholiad 2016. Cytunodd y Comisiynwyr i ddarparu'r math hwn o wasanaeth i gefnogi Aelodau sy’n colli’u sedd mewn etholiad, ac yn arbennig i gefnogi staff a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i’w cyflogwr yn peidio â bod yn Aelod o’r Cynulliad mwyach.

 

 

3.

Y Pumed Cynulliad – Ymgyrch ymwybyddiaeth Pleidleisiwch 2016

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn rhoi amlinelliad bras o'r gweithgareddau cyfathrebu a gynlluniwyd i gefnogi'r ymgyrch Pleidleisiwch 2016, gan ganolbwyntio ar etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Mai 2016.

 

Teimlai Comisiynwyr fod y cynlluniau’n rhoi cyfle i gael pobl Cymru i gymryd mwy o ran yn y broses ddemocrataidd. Roeddent yn fodlon ar y dull a amlinellwyd, gan gynnwys y cyfle i nodi deng mlynedd ers agor y Senedd ar 1 Mawrth 2016, a hynny’n garreg filltir allweddol yn yr ymgyrch a fydd yn hyrwyddo'r adeilad fel cartref democratiaeth a bywyd cyhoeddus Cymru.

 

Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd cadw at rai dulliau marchnata mwy 'hen ffasiwn' - fel taflenni a phosteri - ochr yn ochr â'r cyfryngau electronig a chymdeithasol, er mwyn cyrraedd ystod eang o gynulleidfaoedd.

 

4.

Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 8 Mehefin 2015

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a gynhaliwyd ar 8 Mehefin.

 

 

5.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cododd y Comisiynwyr bryderon am ddau fater a oedd yn ymwneud â rheoli cyfleusterau.

 

Bydd y Comisiwn yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 9 Gorffennaf. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar berfformiad a bydd y Comisiynwyr yn trafod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016/17.