Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Sandy Mewies.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion 23 mis Ebrill.

 

2.

Adroddiad Caffael (Ionawr – Mawrth)

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn rhoi trosolwg iddo o'r cynnydd a wnaed o ran caffael, dair blynedd ar ôl canoli'r gwasanaeth.

Mae ymdrechion y tîm caffael yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Comisiwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau mewn modd effeithlon a chynaliadwy ac mewn modd sy'n amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol.  Mae'r pwyslais hefyd ar gyrchu nwyddau a gwasanaethau o ansawdd da ac sy'n darparu'r gwerth am arian y gall Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd eu disgwyl. Darperir cefnogaeth ac anogaeth benodol i gyflenwyr posibl sy'n fach ac sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.

Roedd gan aelodau'r Comisiwn ddiddordeb mewn cynlluniau i gyflwyno rhaglen datblygu cyflenwyr ar gyfer y cyflenwyr allweddol hynny sydd â staff sy'n gweithio ar y cyd â staff y Comisiwn ar ein hystâd. Y nod yw annog effeithlonrwydd gwell a gwerth am arian o'r contractau hyn, annog arloesedd a hyrwyddo ein gwerthoedd sefydliadol, fel bod cyflenwyr yn cefnogi ein gwerthoedd craidd, yn arbennig ym meysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynaliadwyedd. Dyma'r contractau a nodwyd:

        Darlledu;

        Rheoli Cyfleusterau;

        Glanhau; ac

        Arlwyo

Gofynnodd y Comisiynwyr nifer o gwestiynau am y cyfleoedd sydd gan fusnesau bach a chanolig lleol i ennill busnes y Comisiwn, a thrafodwyd y posibilrwydd efallai nad yw contractau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bob amser yn addas i'r Comisiwn. Nod y tîm caffael yw bod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r gronfa o gyflenwyr lleol. Mae cynlluniau ar waith i gynnal dadansoddiad o'r farchnad yng Nghymru gyfan mewn perthynas â'r hyn yr ydym yn ei brynu er mwyn hysbysu cyflenwyr posibl o gyfleoedd pan maent yn codi.

 

3.

Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Ionawr – Mawrth)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn am weithgareddau a phrosiectau allweddol ers mis Ionawr 2015.

Canolbwyntiodd trafodaeth y Comisiwn ar y canlynol:

·         Y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Ymchwil i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a difyr.

·         Diweddariad ar y cyhoeddiad sydd i ddod gan y Bwrdd Taliadau ynghylch ei Benderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad – a fydd yn digwydd am 10:00 ar 22 Mai.

·         Parhad y gweithgarwch mewn perthynas â Newid Cyfansoddiadol, cyn Araith y Frenhines ac yn dilyn yr arweiniad a gymerwyd gan y Llywydd. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n bwysig rhoi digon o sylw i'r mater a chydnabuwyd y byddai gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn rhan bwysig o hyn.

·         Y gwaith paratoi sy'n mynd rhagddo i gwblhau'r cyfrifon a'r adroddiad blynyddol. Trafododd y Comisiynwyr hefyd lythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

·         Y trefniadau a wnaed i groesawu'r ddau Aelod Cynulliad newydd, a'r cynlluniau cynefino ar eu cyfer.

·         Gweithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cyflawniadau arloesol y system adnoddau dynol.

·         Cynlluniau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer yr Aelodau yn y Pumed Cynulliad.

·         Gweithgarwch i gefnogi sefydliadau allanol wrth ddatblygu eu gallu i roi tystiolaeth i bwyllgorau.

                                                                                        

 

4.

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (Ebrill 2014 – Mawrth 2015)

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr yr adroddiad perfformiad drafft, sef y drydedd fersiwn, a'r olaf, ar gyfer blwyddyn ariannol 2014-15. Roedd yn rhoi gwybodaeth am y cyfnod rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.

 

Nododd yr adroddiad nifer o uchafbwyntiau:

Perfformiad o ran darparu cymorth seneddol o'r radd flaenaf

        Cynnydd yn nifer y dysgwyr Cymraeg.

        Cwblhau'r ymarfer dewisiadau Aelodau i wella'r cymorth ar gyfer gwaith y pwyllgor.

Perfformiad o ran ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru

        Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ar deithiau a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr oedd wedi eu plesio.

        Wythnos ymgysylltiad lwyddiannus gyda chynnydd sylweddol mewn rhyngweithiadau cyfryngau cymdeithasol.

        Cydnabyddiaeth allanol o ran hygyrchedd a chynwysoldeb.

Perfformiad o ran defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth

        Gwelliannau parhaus, neu lefelau cynnal perfformiad ar gyfer:

-        rheoli'r gyllideb;

-        allyriadau ynni; ac

-        lefelau boddhad yn y gwasanaethau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad.

Myfyriodd y Comisiynwyr ar y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff a'r achosion, a thrafodwyd salwch sy'n gysylltiedig â straen.

Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi'r adroddiad. Cytunwyd hefyd i newid i'w gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Bellach, bydd angen i'r adroddiadau gwmpasu mis Ebrill i fis Medi ac yna mis Ebrill i fis Mawrth.

 

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Cofnodion:

Disgrifiodd Helena Feltham, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Taliadau, waith y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf. Eglurodd, er mai rôl gynghori sydd gan y Pwyllgor, mae'n gadarn yn ei waith, ac felly mae'n adnodd effeithiol o safbwynt llywodraethu.

 

Diolchodd y Llywydd i Helena a'r Pwyllgor am eu gwaith.

 

 

6.

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 20/04/15

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a gynhaliwyd ar 20 Ebrill.

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau, 11 Mehefin 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn trafod papur ar benodi olynydd i Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.