Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Papur 1

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 5 Mawrth.

 

2.

Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2016-17

Papur 2

 

Cofnodion:

 Ystyriodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu'r dull gweithredu a'r opsiynau a awgrymir ar gyfer Cyllideb 2016-17 y Comisiwn.

 

Cytunwyd i ddefnyddio dull gweithredu cytbwys lle: bydd cyllideb weithredu'r Comisiwn ar gyfer gwasanaethau'r Cynulliad yn adlewyrchu'r newidiadau ym Mloc Cymru; bydd effaith ariannol penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau'n cael ei ariannu'n llawn; a bydd costau eithriadol sylweddol yn parhau i gael eu trin ar wahân, felly ar gyfer 2016-17, bydd arian ar gyfer gwariant yn ymwneud â'r etholiad a chostau diddymu.

 

2016-17 fydd blwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad, a theimlai'r Comisiynwyr fod angen i ddull gweithredu strategaeth y gyllideb ddarparu digon o hyblygrwydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynwyr newydd y cwmpas ariannol i fynd ar drywydd eu nodau a'u blaenoriaethau eu hunain pan fyddant yn cymryd y swydd. 

 

Roedd y dull gweithredu y cytunodd y Comisiynwyr arno'n cynnwys canolbwyntio cronfeydd y Comisiwn yn 2016-17 ar y meysydd canlynol:

        Rhaglen o waith deddfwriaethol - ni ddisgwylir i'r momentwm y tu ôl i'r llwyth gwaith deddfwriaethol presennol leihau ar ôl yr etholiad. Disgwylir i faint y gweithgarwch deddfwriaethol barhau i fod yn uchel neu hyd yn oed dyfu ymhellach wrth i ddeddfwriaeth a arweinir gan Aelodau Cynulliad gael ei chyflwyno. Mae hyn yn newid o'i gymharu â dyddiau cynnar y Pedwerydd Cynulliad, a bydd angen cefnogaeth.

        Rhaglen datblygiad proffesiynol yr Aelodau i fodloni anghenion aelodaeth newydd a newidiol.  Mae hyn yn adeiladu ar y rhaglen flaenorol gan ddarparu rhaglen gynefino briodol a mynediad at hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer Aelodau.

        Y gwaith cynllunio i gefnogi'r raddfa o newid cyfansoddiadol a ragwelir, sy'n deillio'n arbennig o Fesur Cymru a chyhoeddiadau Dydd Gŵyl Dewi.

        Gwerth am arian - mae gan y Comisiwn hanes cryf o ran darparu gwerth am arian er mwyn mynd ar drywydd ei nodau a'i flaenoriaethau ehangach a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau'r Pumed Cynulliad.

3.

Sesiwn friffio ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Diogelwch

Papur 3

 

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad llawn o'r trefniadau diogelwch sydd eisoes yn bodoli. Roeddent yn ystyried y strategaeth ddiogelwch, y cynnydd gyda gwaith cyfredol, materion sy'n weddill a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am sicrwydd bod y trefniadau diogelwch yn briodol, yn effeithiol ac yn ymateb i anghenion sy'n newid. Pwysleisiodd y Comisiynwyr y pwysigrwydd bod ein trefniadau diogelwch yn cael eu defnyddio mewn modd sensitif, o ystyried statws ystâd y Cynulliad fel adeiladau cyhoeddus agored a chroesawgar.

 

Tynnodd y Comisiynwyr sylw at arwyddocâd y rôl y mae angen i unigolion ei chymryd o ran eu diogelwch eu hunain a phwysleisiwyd pa mor bwysig ydyw i holl Aelodau'r Cynulliad, eu Staff Cymorth a staff y Comisiwn weld y cyflwyniad 'Stay safe'.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am y Pwyllgor Archwilio 20/04/15

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd David Melding y wybodaeth diweddaraf i'r Comisiynwyr am gyfarfod diweddaraf ACARAC. Cafodd tri adroddiad archwilio eu cyflwyno:

        Adolygiad o benodi Cynghorwyr Arbenigol i Bwyllgorau.  Roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar ddiweddaru canllawiau, dull clir i nodi ac ymdrin â gwrthdaro buddiannau a gwerthusiad clir o berfformiad;

        Gwerth am arian.  Nododd yr archwiliad fod gan Gomisiwn y Cynulliad ddiwylliant Gwerth am Arian wedi'i ddatblygu'n dda, sydd wedi'i sefydlu drwy'r sefydliad.  Roedd angen gwneud rhagor o waith o ran adnabod a chofnodi gweithgareddau Gwerth am Arian heb fod yn ariannol.  

        Adolygiad o Drefniadau Rheoli Prosiectau Comisiwn y Cynulliad.  Roedd y pwyllgor yn cefnogi'r dull gweithredu a ddefnyddir.

             Cymeradwyodd ACARAC y Siarter Archwilio Mewnol ar gyfer 2015-16 sy'n diffinio diben, awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio Mewnol yn ffurfiol. 

 

Roedd Gareth Watts (Pennaeth Archwilio Mewnol) wedi nodi ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus pob gweithgaredd a gynlluniwyd ar gyfer rhaglen Archwilio Mewnol 2014-15, a chymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad blynyddol. Bydd yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn gan Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor, yng nghyfarfod mis Gorffennaf.

 

Roedd y Pwyllgor wedi adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac wedi trafod newid cyfansoddiadol, er mwyn sicrhau'n arbennig bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddylanwadu a bod yn barod ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Canmolodd y Pwyllgor ddull gweithredu'r Comisiwn ac ansawdd y gwaith.  Awgrymwyd ffynonellau pellach o her annibynnol y bydd Anna Daniel yn archwilio iddynt.

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Adroddodd David Melding yn ôl i'r Comisiwn ar yr ymweliad diweddar â Bosnia Herzegovina, a oedd yn nodi 20 mlynedd ers y digwyddiadau yn Srebrenica. Dywedodd y cynhelir digwyddiad yn y Senedd ar 8 Gorffennaf.

 

Nododd y Llywydd fod digwyddiadau wythnos y Cynulliad yn Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus.

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 21 Mai, pan fydd y Comisiynwyr yn cynnal un o'u cyfarfodydd rheolaidd i ganolbwyntio ar berfformiad.