Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd Angela Burns AC a David
Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o
fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch Cofnodion: Rhoddodd Dave
Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch gan gyfeirio at gwmpas y briff mwy
sylweddol ym mis Ebrill. |
|
Newidiadau TGCh yn y dyfodol - adnewyddu TGCh y Siambr a’r system ffonau Cofnodion: Trafododd y
Comisiwn gynlluniau i ddiweddaru’r dechnoleg yn y Siambr. Trafododd bapur a
oedd yn nodi’r risgiau a godwyd mewn perthynas â chyflwyno prosiect i adnewyddu
TGCh yn y Siambr. Roedd yn rhoi manylion i’r Comisiwn am bryderon ynghylch
perfformiad y cyflenwyr caledwedd gan gynnig ffordd ymlaen. Cytunodd y
Comisiynwyr i friffio grwpiau’r pleidiau yr wythnos nesaf. Trafododd y
Comisiynwyr y risgiau a nodwyd a’r angen i sicrhau bod gan y Comisiwn
berthnasau da â’r cyflenwyr sy’n cefnogi ein systemau critigol. Cytunodd y
Comisiwn i ohirio gweithredu’r prosiect tan 2016. Rhoddodd
Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect teleffoni. Cadarnhaodd y
canlynol:
Croesawodd
y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf gan bwysleisio bod angen atgoffa’n
rheolaidd am y newid. |
|
Pontio i’r Pumed Cynulliad Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr bapur a oedd yn darparu gwybodaeth am gynllunio ar gyfer diddymu’r
Pedwerydd Cynulliad a phontio i’r Pumed Cynulliad. Cadarnhaodd
y Comisiynwyr mai eu dull o ran trefniadau i ddiddymu’r Cynulliad fydd sicrhau
bod eu staff yn cael gwybodaeth lawn a chynnar i’w galluogi i gynllunio ar
gyfer y diddymiad a bod yr Aelodau hynny sy’n rhoi’r gorau iddi yn cael cymorth
i’w galluogi i ddirwyn eu gwaith yn y Cynulliad i ben. Teimlodd y Comisiynwyr y
byddai’n ddefnyddiol gweithio drwy Grwpiau i gyfathrebu ag Aelodau ac awgrymwyd
cynnal sesiynau gyda Grwpiau maes o law. Pan gaiff y
Cynulliad ei ddiddymu, bydd Aelodau yn dychwelyd i fod yn aelodau o’r cyhoedd
ar unwaith ac yn colli pob braint sy’n gysylltiedig â bod yn Aelod Cynulliad.
Bydd hyn, felly, yn cynnwys cyfyngiadau ar ddefnydd cyn-Aelodau o adnoddau’r
Cynulliad yn ystod y cyfnod diddymu. Roedd
Comisiynwyr yn teimlo bod angen ystyried y mater o faint o Aelodau sydd eu
hangen i wneud Grŵp yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Bydd y
Comisiwn yn gwneud penderfyniadau penodol yn hwyrach yn 2015, a bydd pecyn y
Bwrdd Taliadau o benderfyniadau o ran cydnabyddiaeth a chymorth ariannol yr
Aelodau yn y Pumed Cynulliad yn cael ei gadarnhau erbyn mis Mai 2015. |
|
Diweddariad a Chofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 9 Chwefror 2015 Cofnodion: Rhoddodd
Claire Clancy grynodeb o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y
Cynulliad a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, sef cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwnnw
cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd
Cadeirydd y Pwyllgor yn gallu cadarnhau bod yr holl bwyntiau gweithredu
archwilio a oedd yn weddill wedi cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn
ariannol, ac edrychodd y Pwyllgor ymlaen at y gweithgarwch dros y flwyddyn
nesaf. Croesawodd
Comisiynwyr y gwaith a wnaed gan nodi cofnodion y cyfarfod yn ffurfiol. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Diolchodd y
Llywydd i’r Comisiynwyr a staff y Comisiwn am y gwaith a wnaed yn y cyfnod cyn
datganiad yr Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cyhoeddi cytundeb Dydd Gŵyl
Dewi ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Nododd fod y cyflwyniadau manwl a
gyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol, ac adroddiad y Comisiwn ar gapasiti, wedi
gwneud gwahaniaeth go iawn. Hefyd,
dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr, gan fod Angela Burns yn wynebu
absenoldeb estynedig, y byddai David Melding yn ymgymryd â’i chyfrifoldebau fel
Comisiynydd tra’i bod yn absennol. Tynnodd
Claire Clancy sylw at ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau, a fyddai’n cael ei
gyhoeddi y diwrnod canlynol, a dywedodd wrth y Comisiynwyr fod y Pwyllgor
Cyllid wedi adrodd ar y gyllideb atodol. Bydd y
Comisiwn yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Ebrill 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn
ystyried y Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2016-17 ac yn cael briff diogelwch
llawn. |