Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Lywydd wedi ymddiheuro.

 

1.2

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr yn gywir.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch

Papur i ddilyn

 

Cofnodion:

Rhoddodd Simon Rees gyflwyniad ar ddiogelwch i’r Comisiwn ac roedd tua 300 o staff y Cynulliad wedi’i weld yr wythnos gynt. Paratowyd canllawiau ychwanegol i gyd-fynd â’r fideo a’r cyflwyniad. Roedd y Comisiynwyr yn awyddus i sicrhau bod pawb a oedd yn gweithio yn ein hadeiladau’n cael gwybodaeth ddigonol am y mater. Cadarnhawyd bod cynlluniau’n cael eu paratoi i’r Aelodau, grwpiau plaid a staff cymorth weld y fideo a’r canllawiau cyn gynted â phosibl dros yr wythnosau nesaf. 

 

Yn dilyn y cyfarfod ar 29 Ionawr, cafwyd rhagor o wybodaeth gan Heddlu De Cymru am sicrhau diogelwch yr ystâd. Trafododd y Comisiwn y rhain. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith o gryfhau diogelwch ar unwaith a chytunwyd ar gynllun cyfathrebu â’r heddlu. 

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur llawnach ar faterion diogelwch, gan gynnwys archwilio cefndir unigolion, a chaiff hwn ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Ebrill.

 

 

3.

Ymgysylltu â phobl Cymru

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn bapur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymgysylltu â cyhoedd. Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod bod cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo ym mhob rhan o’r Comisiwn, er y byddai’n anodd sicrhau bod y rhaglen weithgareddau uchelgeisiol yn cael ei chwblhau cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Roedd y Comisiynwyr yn falch o glywed am enghreifftiau o weithgareddau arloesol, fel y gwaith o hyrwyddo ein pwyllgorau, sy’n destun cenfigen ymhlith cyrff seneddol eraill. Cytunwyd y dylai unrhyw wybodaeth yn y cyswllt hwn yn y dyfodol gynnwys dadansoddiad manwl sy'n ategu’r safbwynt hwn.

 

Gan nodi bod y cyfryngau hyperleol a chymdeithasol yn ddatblygiadau pwysig a’u bod yn rhan o becyn gyfathrebu ehangach i geisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a thraddodiadol, cytunodd y Comisiynwyr y dylai eu hadroddiad blynyddol ddangos pa mor bellgyrhaeddol ac effeithiol oedd y rhain a gweithgareddau ymgysylltu eraill. 

 

Cytunodd y Comisiwn fod y cyfeiriad a’r blaenoriaethau strategol a nodwyd ar gyfer y gwaith ymgysylltu yn briodol ac roeddent yn fodlon â’r manylion a gafwyd yn y papur am y gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflwyno cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

4.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dim.

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Coimsiwn ddydd Iau, 5 Mawrth 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad.