Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Rhagarweiniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch - Eitem lafar

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn sesiwn friffio diogelwch, a bydd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau mewn cysylltiad â diogelwch ar y safle. Penderfynodd y Comisiynwyr drafod y mater eto yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror.

 

3.

Strategaeth Rheoli Carbon - Casgliad a Chynlluniau’r Dyfodol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’n prif gyflawniadau mewn cysylltiad â’r targedau corfforaethol ac a arweiniodd at y Strategaeth Rheoli Carbon. Croesawodd y Comisiynwyr y manylion am y gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon a gyflwynwyd drwy’r strategaeth hon. Mae’r Comisiwn yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod drwy’r Trywydd Lleihau Ynni y cytunwyd arno y llynedd. 

 

Canmolodd y Comisiynwyr yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i gyflawni llwyddiant o’r fath, gan dynnu sylw’n benodol at y wobr ddiweddar ar gyfer Sefydliad Sector Cyhoeddus Mwyaf Cynaliadwy mewn Llywodraeth ledled y DU. Cytunwyd y dylid cyhoeddi’r adroddiad ar dudalen cynaliadwyedd gwefan y Comisiwn.

 

4.

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol, Ebrill - Mehefin 2014

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014.

 

Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o feysydd a drafodir yn yr adroddiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymweliadau gan ysgolion a gwella lefelau salwch staff.

 

Nododd y Comisiynwyr pa mor ddefnyddiol oedd yr adroddiad ond efallai bod angen ystyried ei symleiddio a pheidio â chael gormod o dargedau.

 

5.

Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Gorffennaf - Rhagfyr 2014)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiynwyr yr adroddiad diweddaraf ar y prif bwyntiau a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prif weithgareddau a phrosiectau ers mis Mehefin 2014. Cytunwyd i gyhoeddi’r adroddiad a sicrhau ei fod ar gael i Aelodau.

 

6.

Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad - y diweddaraf ar y camau gweithredu

Cofnodion:

Gwnaeth y Comisiwn adolygu a diweddaru ei Gynllun Gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion yn yr adroddiad ar adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn.

 

7.

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 10 Tachwedd 2014

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 10 Tachwedd, ar ôl cael diweddariad ar lafar am y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

8.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Bydd y Comisiwn yn cyfarfod nesaf ar 9 Chwefror, pan fydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl Cymru, a bydd y Comisiynwyr yn trafod materion diogelwch unwaith eto.