Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr. 

 

2.

Newid Cyfansoddiadol – Cyflwyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ar 17 Tachwedd, cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn llywio’r cytundeb trawsbleidiol Dydd Gŵyl Dewi disgwyliedig a fyddai’n amlinellu dyfodol setliad datganoli Cymru.  Trafododd y Comisiwn gwmpas a chynnwys adroddiad drafft ar y mater hwn, yn ogystal â threfniadau ar gyfer rhannu’r adroddiad â rhanddeiliaid.  

 

Cytunodd y Comisiwn y dylid datganoli materion yn ymwneud â maint y Cynulliad, a’i system etholiadol, i’r sefydliad ei hun, yn hytrach na bod San Steffan yn deddfu arnynt.  Teimlai y dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib.  Trafododd y Comisiynwyr faint y Cynulliad hefyd, a goblygiadau sawl cynnydd gwahanol ym maint y Cynulliad, yn enwedig y goblygiadau ariannol. 

 

Cytunodd y Comisiwn bod yn rhaid cynyddu nifer yr Aelodau etholedig yn y Cynulliad. Roedd ymresymiad y Comisiynwyr yn cael ei lywio gan eu dymuniad i roi cyfle realistig i Aelodau graffu ar bolisïau, gweinyddiaeth, gwariant a chynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mor gadarn ag y mae pobl Cymru yn ei haeddu.  Teimlent fod canlyniadau ac effeithiau’r gwaith a wneir gan yr Aelodau yn arwyddocaol a’i bod yn bwysig canolbwyntio yn eu hadroddiad ar ymdrin ag anghenion y sefydliad.  Roedd y Comisiwn yn cydnabod bod costau yn gysylltiedig â democratiaeth, a nodwyd bod y ffigurau yn y papur a gawsant yn dangos bod y gost, hyd yn oed gyda chynnydd yn nifer yr Aelodau, yn parhau’n ganran fach iawn o floc Cymru; gofynwyd am i hyn gael ei bwysleisio yn yr adroddiad.  

 

Trafododd y Comisiynwyr y ffaith bod y disgwyliadau ar Aelodau heddiw, heb son am unrhyw estyniad i bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, yn gwneud yr achos am fwy o Aelodau yn un cryf.  Teimlent y byddai angen iddynt ystyried sut i gynorthwyo Aelodau wrth ymgymryd â’u swyddi yn y cyfnod cyn cynyddu nifer yr Aelodau. 

 

Cytunodd y Comisiwn y byddai’n cyhoeddi adroddiad yn egluro themâu eu trafodaethau, ac ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, ac arweinwyr grwpiau, yn amgáu copi o’r adroddiad.  Teimlai’r Comisiynwyr ei bod yn bwysig canolbwyntio yn eu hadroddiad ar y ffeithiau a gwneud cyfraniad defnyddiol i’r ddadl gyfansoddiadol gyfredol.  Cytunwyd y byddai eu hadroddiad ar gael i Aelodau, y cyfryngau a’r cyhoedd. 

3.

Unrhyw fusnes arall

Cofnodion:

Rhoddodd y Comisiwn ei gymeradwyaeth ffurfiol i benodiadau’r ymgeiswyr llwyddiannus yn y ddwy gystadleuaeth recriwtio ar gyfer swyddi Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a’r Cyfarwyddwr Cyllid. 

 

Bydd y cyfarfod nesaf ddydd Iau 29 Ionawr yn un o’r cyfarfodydd rheolaidd sy’n canolbwyntio ar Berfformiad.  Bydd y Comisiwn yn ystyried Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Ebrill-Rhagfyr 2014, yr Adroddiad Blynyddol ar ein Strategaeth Reoli Carbon a’r Adroddiad Uchafbwyntiau diweddaraf.