Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd
buddiannau i'w datgan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol Eitemau llafar |
|
Ystâd y Cynulliad Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariad cryno i'r Comisiynwyr o'r trafodaethau cychwynnol a gynhaliwyd ac
sydd wedi'u cynllunio. Roedd disgwyl
ymatebion i’r ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud ar yr ystafelloedd pwyllgor
newydd ar y llawr gwaelod yn fuan, gan ddisgwyl y bydd y gwaith yn digwydd yn
bennaf rhwng y Nadolig a'r Pasg. |
|
Ymgynghoriad ar y Newid Enw Cofnodion: Rhoddodd y Llywydd y newyddion diweddaraf i'r Comisiynwyr
ar waith a oedd wedi'i wneud i baratoi ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â
phenderfyniad blaenorol y Comisiwn. Rhagwelwyd y byddai'r ymgynghoriad yn mynd yn fyw yn
ddiweddarach yn ystod yr wythnos, ac yn parhau ar agor tan 3 Mawrth. Roedd y Comisiynwyr yn fodlon ar y cynnydd a
wnaed, gan gynnwys y bwriad i hyrwyddo'r ymgynghoriad a'r arolwg ar-lein drwy'r
cyfryngau cymdeithasol a thrwy waith y timau cyfathrebu, addysg ac allgymorth. Fel yr oedd y Comisiynwyr wedi awgrymu, bydd y Llywydd
hefyd yn anfon llythyr at yr holl Aelodau, ynghyd â gwybodaeth gefndirol. Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr annog yr
Aelodau i ofyn i'w hetholwyr gwblhau'r arolwg. |
|
Panel arbenigol ar ddiwygio cyfansoddiadol Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y
Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar
ddiwygio etholiadol yn symud yn ei flaen.
Roeddent yn cefnogi'r dull o benodi Cadeirydd â lefel addas o hygrededd
academaidd (yr Athro Laura McAllister), a cheisio panel o unigolion amrywiol â
phrofiad priodol. |
|
Tasglu digidol Cofnodion: Cadarnhaodd
y Llywydd fod y Tasglu wedi dechrau ar ei waith, a'i bod wedi mynychu'r
cyfarfod cyntaf. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr adolygiad diogelwch ar gyfer swyddfeydd Aelodau Eitem lafar Cofnodion: Yn dilyn
cefnogaeth y Comisiwn ar gyfer adolygiad o ddiogelwch mewn perthynas â
swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol Aelodau, rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am gynnydd y gwaith hwnnw, ac amlygodd fod cymorth
yn cael ei gynnig i Reolwyr Swyddfa gan wasanaeth Cymorth Busnes yr Aelodau. Roedd
Comisiynwyr yn arbennig o awyddus bod yr Aelodau'n deall eu cyfrifoldebau i
gymryd camau priodol yn dilyn yr adolygiad.
Mae nodyn yn cael ei baratoi gan wasanaeth cyfreithiol y Comisiwn a bydd
yn cael ei anfon at yr Aelodau cyn hir. |
|
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Papur 2 ac atodiadau Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft newydd a baratowyd
i gymryd lle Cynllun Cydraddoldeb y Cynulliad 2012-16. Yn benodol, gwnaethant
drafod agweddau ar y contractau a ddelir gan y Comisiwn. Trafododd
y Comisiynwyr hefyd gynnydd ar draws y Cynulliad yn erbyn camau gweithredu a
nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2012-16, fel y nodir yn Adroddiad Cydraddoldeb
Blynyddol 2015-16. Gwnaethant ofyn am
fanylion pellach ynglŷn â'r wybodaeth o ran proffiliau oedran yn yr adroddiad. Cytunodd
y Comisiynwyr ar Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21 a chytunwyd y
bydd Joyce Watson, sef yr Aelod sy'n gyfrifol am y portffolio, yn arwain ar
oruchwylio'r cynllun gweithredu corfforaethol. Hefyd, cytunodd y Comisiwn ar
fersiwn ddrafft Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16 yn barod i'w gyhoeddi. |
|
Contractau a chaffael Papur 3 Cofnodion: Cyflwynodd
Jan Koziel, y Pennaeth Caffael, drosolwg o bwrpas, rôl a chyfrifoldebau'r
gwasanaeth caffael. Archwiliodd
y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â Thelerau ac Amodau yng nghontractau'r
Comisiwn, cynaliadwyedd ar gyfer busnesau bach a chanolig, a gweithio gyda chontractwyr
ar werthoedd cyffredin. Yn
gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd y Comisiynwyr wedi gofyn cwestiynau am
unrhyw effaith a gaiff y broses o adael yr UE ar ein trefniadau caffael –
rhoddwyd asesiad cychwynnol o'r sefyllfa yn y papur. Nododd y Comisiynwyr y
byddent yn hoffi dechrau ystyried sut y gellid cefnogi marchnadoedd lleol yng
Nghymru wrth i'r cyfleoedd gynyddu yn sgil newidiadau sy'n gysylltiedig â'r UE
a'r penderfyniad i adael. |
|
Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol (Ebrill-Medi 2016) Papur 4 Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr weld Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol
cyntaf y Pumed Cynulliad, yn dangos sut y perfformiodd Comisiwn y Cynulliad yn
erbyn ei nodau strategol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016. Holodd y
Comisiynwyr am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella absenoldeb salwch. Yn dilyn
trafodaethau blaenorol, estynnwyd llongyfarchiadau i staff am dalu cyflenwyr yn
brydlon, ond gofynnwyd a oes camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod y dull hwn o
wneud taliadau'n brydlon yn gyffredin yn y gadwyn gyflenwi. Croesawyd
y perfformiad cadarnhaol a chytunwyd y dylid cyhoeddi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Cryno i’r Comisiwn (Mai-Rhagfyr 2016) Papur 5 Dogfennau ategol: Cofnodion: Rhoddodd
yr adroddiad cryno gofnod o waith a llwyddiannau'r Comisiwn yn ystod y cyfnod
ers dechrau'r Pumed Cynulliad. Croesawodd
y Comisiynwyr yr adroddiad, gan gytuno y byddai'n adnodd defnyddiol, o un tymor
i'r nesaf, fel rhan o'u gwaith goruchwylio a'r gwaith o ddwyn y rheolwyr i
gyfrif. Roeddent yn cytuno ei fod yn gofnod gwerthfawr iawn. Rhoddodd
y Comisiynwyr sylwadau manwl ar y potensial ar gyfer gwerthuso cynlluniau
ymgysylltu y bydd angen buddsoddi ynddynt yn barhaus, fel y gwaith ar y Senedd
Ieuenctid, er mwyn darganfod yr effeithiau hirdymor ar y rhai sy'n cymryd
rhan. Gwnaethant sylwadau hefyd ar rôl
Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a chyfleoedd sy'n newid yng nghyd-destun gadael
yr UE. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd Eitem lafar Cofnodion: Cyfarfu
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad ar 21 Tachwedd. Roedd
Suzy Davies yn bresennol yn y cyfarfod fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y
portffolio, a rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn. Roedd y
manylion yn cynnwys: y pedwar adolygiad archwilio mewnol ffurfiol a gyflwynwyd
i'r Pwyllgor; cyngor Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd unrhyw faterion yn
weddill yn dilyn yr archwiliad o gyfrifon y Cynulliad yn 2015-16, a gyflawnwyd
yn ddiffwdan diolch i ddull gweithredu a chydweithrediad swyddogion; cyfeiriad
at ddatblygu'r system gyllid newydd; ac adroddiad blynyddol yr Uwch-berchennog
Risg Gwybodaeth. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Llyfr
coffa Aberfan Dywedodd y Llywydd ei bod wedi teithio i Gastell
Cyfarthfa ym Merthyr i ymweld â'r arddangosfa sydd ar hyn o bryd yn cynnwys
Llyfr Coffa Aberfan. Llyfr caligraffig
ydyw sy'n nodi enwau'r rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan. Y Cynulliad yw
ceidwad presennol y Llyfr ond mae wedi ei fenthyca i'r arddangosfa; cafodd y llyfr
ei arddangos yn y Pierhead cyn hynny. Cytunodd
y Comisiwn i ddychwelyd y Llyfr yn ffurfiol i Elusen Goffa Aberfan ac y dylid
ei arddangos yn llyfrgell gymunedol Aberfan.
Y pynciau
a gaiff sylw yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn fydd y strategaeth ymgysylltu â'r
cyhoedd a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd. |