Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans 02920 898598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

 

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1c

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd ar gyfer cytuno arnynt \ Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd ar gyfer cytuno arnynt

papur 1a

papur 1b

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 21 Tachwedd.

 

 

2.

Adroddiad blynyddol ar y strategaeth rheoli carbon

papur 2

Cofnodion:

Roedd y papur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed ers i’r Comisiwn fabwysiadu ei strategaeth rheoli carbon a’i gynllun gweithredu ar gyfer dod yn Gynulliad carbon niwtral yn 2009.

Nododd y Comisiynwyr bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud heb fuddsoddi swm sylweddol o arian, a oedd yn galonogol iawn o gofio’r digwyddiadau allanol a oedd wedi effeithio ar y perfformiad o ran carbon (y refferendwm a’r etholiad), a’r tywydd gwael nad oedd modd ei ragweld.

Er gwaetha’r ffaith nad oedd y Comisiwn wedi cyrraedd y targed o ran defnyddio llai o ynni yn 2012-13, roedd lleihad cronnol o 22% wedi’i gyflawni. Fodd bynnag, roedd y Comisiynwyr yn cydnabod ei bod yn annhebygol y byddai’r nod uchelgeisiol o leihau allyriadau ynni o 40% erbyn 2015 yn cael ei gyflawni heb fuddsoddi i wella dycnwch ac effeithlonrwydd, yn sgîl tywydd sy’n anodd ei ragweld, costau cynyddol ynni ac anwadalrwydd posibl y cyflenwad ar gyfer y dyfodol.

Nododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig sicrhau y caiff dull gweithredu cytbwys ei fabwysiadu rhwng sicrhau bod ein hadeiladau mor effeithlon ag sy’n bosibl a sicrhau ar yr un pryd bod yr amgylchedd gweithio yn gyfforddus i bawb. Mynegwyd rhywfaint o ansicrwydd hefyd am fewnosod carbon fel opsiwn ar gyfer y dyfodol. Awgrymodd y Comisiynwyr y byddai Aelodau’r Cynulliad yn croesawu cael cyngor a chefnogaeth ar wella cynaliadwyedd yn eu swyddfeydd etholaethol, er enghraifft, gwybodaeth am wobr y Ddraig Werdd. Roedd astudiaeth dichonoldeb ar y gweill i nodi’r opsiynau ar gyfer y dyfodol. Nododd y Comisiynwyr ei bod yn debygol y byddai angen gwario arian er mwyn cyrraedd y targedau cynaliadwyedd, ond nodwyd y byddai’n rhaid darparu hyn o fewn y cyllidebau a gynlluniwyd. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd Buddsoddi a’r Comisiwn yn ystyried y cynigion o ran buddsoddi, a nodwyd gan yr astudiaeth dichonoldeb, yn y flwyddyn newydd.

3.

Adroddiad i'r Comisiwn ar gynnydd y Prosiect i Ddarparu Gwasanaethau TGCh yn y dyfodol

papur 3

Cofnodion:

Erbyn mis Gorffennaf 2014 bydd gwasanaethau TGCh yn y Cynulliad yn cael eu darparu’n fewnol. Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Pontio Gwasanaethau TGCh a’r gweithgareddau niferus sydd i’w cwblhau o hyd.

 

Mae staff yn gwneud cynnydd da yn y meysydd gwaith amrywiol ac maent wedi cwblhau nifer o dasgau pwysig, gan gynnwys cytuno ar y cynllun ymadael a’r Memorandwm Gwasanaethau Prosiect, cwblhau cam cyntaf y broses o drosglwyddo gwybodaeth a recriwtio penaethiaid newydd ar y Gwasanaeth. Hyd yma, bu’r paratoadau ar gyfer y cyfnod pontio yn rhedeg yn llyfn ac maent wedi’u rheoli’n effeithiol. Ni ddangosodd y ddau archwiliad sicrwydd allanol a gynhaliwyd gan KPMG unrhyw broblemau o bwys, a rhoddwyd statws ‘gwyrdd’ i’r Comisiwn o ran rheoli risg. 

 

Roedd prosesau ar gyfer monitro’r prosiect a’r gyllideb yn wythnosol wedi caniatáu i risgiau gael eu rheoli’n ofalus. Roedd y Bwrdd Prosiect a’r Bwrdd Buddsoddi wedi cynnal asesiad misol er mwyn llywio’r asesiad o’r parodrwydd ar gyfer mynd ‘yn fyw’ ar yr amser priodol. 

Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn cael bwletinau misol ar y cynnydd a wneir, o fis Ionawr ymlaen. Cytunwyd hefyd y byddai’r Comisiwn yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar gyfer mynd ‘yn fyw’.

4.

Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (am y cyfnod rhwng mis Mai a mis Tachwedd)

papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae’r adroddiad ar y prif bwyntiau yn crynhoi’r gweithgareddau sydd wedi’u cyflawni neu sy’n digwydd ar hyn o bryd i wneud cynnydd tuag at gyflawni nodau strategol y Comisiwn. Y pwyntiau i’w nodi’n benodol yw:

-       Ail-strwythuro’r Gyfarwyddiaeth Busnes;

-       Yr ymweliadau niferus â’r Cynulliad ac o’r Cynulliad.

-       Canlyniadau’r arolwg staff a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Bwrdd Rheoli mewn ymateb iddo;

-       Gwaith y Llywydd yn y dyfodol agos ar y cynllun mentora Cymru gyfan, fel rhan o’i gwaith ar y prosiect Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus;

-       Y sylw a gafodd gweithgareddau’r Cynulliad yn y cyfryngau;

-       Cyrraedd safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl.

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Cyfarfu’r Pwyllgor Archwilio ar 7 Tachwedd, a bu’n trafod y gwasanaethau TGCh ar gyfer y dyfodol, risgiau corfforaethol o ran graddfa’r gweithgareddau sydd ar y gweill yn y sefydliad a’u heffaith ar gapasiti, ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli cyfrifon. Hwn oedd cyfarfod olaf Richard Calvert fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Nododd y Comisiynwyr eu diolch iddo am ei gyfraniad.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 30 Ionawr 2014.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Rhagfyr 2013