Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 311KB) Gweld fel HTML (351KB)

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan. Roedd David Rees yn dirprwyo.

 

(09.00)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys argymhelliad yn ei Adroddiad Etifeddiaeth bod y Pwyllgor olynol yn ystyried cynnal ymchwiliad i'r pwnc hwn.

 

2.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

(09.05-09.15)

3.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(4)-09-16 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-09-16 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-09-16 Papur 3 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

PAC(4)-09-16 Papur 4 – Gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau yr ymatebion a chytunwyd i gynnwys argymhelliad yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor bod y Pwyllgor olynol yn gofyn am ddiweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed yn ystod hydref 2016.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch cymhlethdod gosod Band Eang (R1), y gost bosibl yn ychwanegol at werth y talebau sydd ar gael (R2), beth mae 'deinamig' yn ei olygu i'r defnyddiwr (R8), a disgrifiad o sut y gellir gwella'r wefan.

 

(09.15-10.30)

4.

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

Gareth Bullock - Cadeirydd, Cyllid Cymru ccc

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, a Gareth Bullock, Cadeirydd Cyllid Cymru plc, ar Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.

4.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:

·       Rhoi eglurhad ynghylch cyfansoddiad y panel dethol, pryd y cafodd penodiadau'r panel cynghori eu gwneud, a nifer yr aelodau a benodwyd o du allan i Gymru;

·       O fewn Llywodraeth Cymru, gofyn a ddylid rhannu'r cyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio â chyrff hyd braich;

·       Cadarnhau lefel y cyllid grant a gynigiwyd i ReNeuron; ac

·       Eglurhad ynghylch a gafodd cofnodion llawn eu cymryd yng nghyfarfodydd WIDAB ar 18 Mehefin 2013 a 24 Hydref 2013. 

4.3 Cytunodd Gareth Bullock i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ffioedd trefnu sy'n daladwy i Reolwyr y Gronfa gan Gwmnïau Buddsoddi.

 

 

 

 

(10.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-11.00)

6.

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod ar 15 Mawrth 2016.