Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 251KB) Gweld fel HTML (236KB)

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

 

(09.00-09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Gohebiaeth y Pwyllgor: Llythyr oddi wrth Harriet Harman, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (27 Ionawr 2016)

Dogfennau ategol:

(09.05-09.35)

3.

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2015

PAC(4)-07-16 Papur 1

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau.

 

(09.35-10.30)

4.

Dulliau o weithio: Trafodaeth ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar waith y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

PAC(4)-07-16 Papur 2

PAC(4)-07-16 Papur 3

 

Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafodwyd gwaith y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac edrychwyd ymlaen at y Pumed Cynulliad.

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i ymchwilio ymhellach a yw CCAUC yn cael gwybodaeth ariannol gan brifysgolion yn ystod y flwyddyn sy'n codi pryderon i Lywodraeth Cymru.

 

(10.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6 a 7

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

6.

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol gyda rhai argymhellion i wella ymhellach Adroddiadau Rheoli Grant Blynyddol yn y dyfodol.

 

(10.45-11.00)

7.

Dulliau o weithio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Ysgrifennydd Parhaol.