Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF280KB) Gweld fel HTML (234KB).

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.3       Datganodd Jocelyn Davies fuddiant gan fod aelod o’i theulu yn cael ei gyflogi gan Thomson Airways ym Maes Awyr Caerdydd, ond nid oedd yn gweithio yn y lleoliad hwnnw yn ystod y cyfnod caffael.

 

(09.00-09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

(09.05-10.30)

3.

Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Roger Lewis – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Debra Barber – Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Roger Lewis, Cadeirydd, a Debra Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd fel rhan o’r ymchwiliad i gaffael a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru o Faes Awyr Caerdydd

3.2 Cytunodd Debra Barber i ddarparu ffigurau ar drwybwn teithwyr o’r tu allan a gallu’r maes awyr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ac Uwchgynhadledd NATO.

3.3 Estynnodd Roger Lewis wahoddiad i’r Pwyllgor i ddod ar ymweliad i weld y gwelliannau a wnaed i’r seilwaith yn y maes awyr.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5 & 6

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.40)

5.

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.40-11.00)

6.

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-04-16 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau.