Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(09.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. Fodd
bynnag, gofynnodd y Cadeirydd i'r Clercod drefnu amser yn rhaglen waith y
Pwyllgor i drafod y llythyr ar y Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb
Athrawon gan y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau, yn ogystal â'r llythyr gan
Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y Trefniadau Llywodraethu
ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 2.2 Dywedodd y Cadeirydd hefyd
y byddai'n ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gofyn
am eglurhad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwario arian y grant
sy'n ymwneud â GIG Cymru yn unol â pholisïau Gweinidogion Cymru. |
|
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan yr Asiantaeth Briffyrdd (24 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (26 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (26 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Glastir: Llythyr gan yr RSPB (26 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg (26 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau (13 Ebrill 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Gwybodaeth ychwanegol gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd (13 Ebrill 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Dogfennau ategol: |
||
(09.05-10.00) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 5 PAC(4)-10-15
papur 1 PAC(4)-10-15
papur 2 PAC(4)-10-15
papur 3 Briff
Ymchwil James Price
- Llywodraeth Cymru Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a
Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru Sheena Hague - Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli'r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru Andy Falleyn - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James
Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth,
Sheena Hague, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Rhwydwaith, ac Andy Falleyn, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Darparu Isadeiledd, Llywodraeth Cymru ar yr ymchwiliad i werth am
arian y buddsoddiad mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd. 3.2 Cytunodd
James Price i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor: · ystyried
yr awgrym bod gwallau yn y wybodaeth a ddarparwyd am yr A55 ar wefan Traffig
Cymru; · darparu
nodyn ar faint o waith ffordd yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru,
gan gynnwys gwaith dros nos a'r amser ar gyfer darparu'r cynllun; · darparu
nodyn ar nifer y cwynion ynghylch gwaith ffordd, gan gynnwys canran y gwaith
ffordd sy'n destun cwynion, a chyflwyno proses gofnodi fwy rheolaidd a
ffurfiol; · cadarnhau
pryd y dechreuodd y gwaith o baratoi'r Strategaeth Gwaith Ffordd newydd a'r
rhesymau pam ei fod wedi cymryd pedair blynedd i'w datblygu; ac · ymchwilio
i'r anawsterau diweddar yn sgil y gwaith ffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a
sut y mae hyn yn ymwneud â chydweithredu trawsffiniol gydag Awdurdodau
Priffyrdd Lloegr, gan gynnwys yr Asiantaeth Priffyrdd / Highways England. |
|
(10.00-10.40) |
Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Sesiwn dystiolaeth 1 Briff Ymchwil Jeremy Patterson
– Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys David Powell –
Cyfarwyddwr Strategol, Cyngor Sir Powys Tony Wilkins - Cyfarwyddwr
Adnoddau Dynol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ariannol Barrie Davies - Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Ariannol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ariannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Patterson, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys a
David Powell, Cyfarwyddwr Strategol, Cyngor Sir Powys ynghyd â Tony Wilkins,
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Barrie
Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf ynghylch yr ymchwiliad i Reoli Ymadawiadau Cynnar. 4.2 Cytunodd
Jeremy Patterson i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor: · Manylion am gyfanswm nifer yr
ymadawiadau ers adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru gyda chostau cyfartalog
a pha adrannau yr effeithiwyd arnynt; · Cytuno i wirio ac anfon manylion am
p'un a yw Cyngor Sir Powys wedi defnyddio gwasanaethau'r ymgynghorwyr a oedd yn
gyn-gyflogeion a adawodd yr awdurdod o dan gynllun ymadael yn gynnar; · Manylion am nifer y swyddi gwag
cyfredol ynghyd â'r adrannau dan sylw, a · Manylion am nifer y mynegiannau o
ddiddordeb ar gyfer y rownd ddiwethaf o geisiadau ymadael yn gynanr. 4.3
Cytunodd Tony Wilkins i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor: · Manylion am nifer y swyddi gwag
cyfredol ynghyd â'r adrannau dan sylw. |
|
(10.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6,
7 ac 8 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.40-10.45) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.45-10.50) |
Rheoli Ymadawiadau Cynnar: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:50-11:00) |
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1
Oherwydd diffyg amser, ni allodd y Pwyllgor drafod y dystiolaeth a ddaeth i
law. Fodd bynnag, bydd y clercod yn aildrefnu'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn
y dyfodol. |