Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gadarnhau nifer y staff sydd wedi eu
recriwtio, i ystyried achosion ôl-weithredol ac i reoli llwyth achosion
parhaus. |
|
Gohebiaeth - Y Pwyllgor: Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraerh Cymru (11 Chwefror 2015) Dogfennau ategol: |
||
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd: Llythyr gan y Dr Andrew Goodal, Llywodraeth Cymru (13 Chwefror 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4, 6 a 7 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(09:05-09:45) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Darparodd Swyddfa Archwilio
Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Aelodau gyda
diweddariad ar yr ymgynghoriad a'r dull ymholi amlinellol. |
|
(09:45-10:45) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 1 Simon Higgins – Rheolwr Ardal, Road Haulage Association Ltd Malcolm Bingham – Pennaeth Polisi Priffyrdd, Y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan y Road Haulage Association Ltd a Freight Transport Association ar ei
ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd. |
|
(10:45-10:55) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth: Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth
a ddaeth i law. 6.3 Cytunodd y Pwyllgor: ·
i ofyn am ffigyrau ar lefelau staffio a gwybodaeth yn ymwneud â rheoli
traffig a threfniadau gwydnwch gan Asiantau Cefnffyrdd; ·
gofyn am wybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau cefnffyrdd
mawr sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, ei ddull o flaenoriaethu cynlluniau
yn y dyfodol, a mwy o fanylion am wariant Asiantau Cefnffyrdd, rhaglenni gwaith
a chyllidebau yn y dyfodol; ·
ysgrifennu at Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) i ofyn am wybodaeth
am reoli digwyddiadau a defnyddio sgriniau; ac ·
ysgrifennu at Highways England i ofyn am wybodaeth am ei ddull o gynnal a
gwella'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn Lloegr, gan gynnwys manteision
disgwyliedig y strwythur a'r dull gweithredu newydd, a sut y bydd hyn yn rhoi
mwy o sicrwydd cyllid. 6.4 Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil
i ddarparu eglurhad ar goridorau'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd
(TEN-T) yng Nghymru a'r DU a gwybodaeth am Highways England. |
|
(10:55-11:00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor lythyr
oddi wrth yr Athro June Andrews a Mark Butler, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd
yn ysgrifennu i fynegi awydd y Pwyllgor iddi ddod i gyfarfod yn y dyfodol. |