Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Ni
chafwyd ymddiheuriadau. 1.3
Datganodd Sandy Mewies fuddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad (eitem 2.4) a
dywedodd Julie Morgan fod ei merch yn gweithio i Shelter Cymru (Eitem 4). |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ymateb i Gomisiwn y
Cynulliad (Eitem 2.4) yn gofyn am eglurhad pellach ar y tanwariant targed o 1%
o'r gyllideb weithredol. |
|
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynglŷn â threfniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon (30 Ebrill 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (29 Ebrill 2015) Dogfennau ategol: |
||
Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Llythyr gan William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes (1 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd (7 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:50) |
Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 1 PAC(4)-13-15
papur 1 - Cartrefi Cymunedol Cymru PAC(4)-13-15 papur 2 - Sefydliad Tai Siartredig Cymru
(CIHC) Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Sioned Hughes – Cyfarwyddwr Polisi ac Adfywio, Cartrefi
Cymunedol Cymru Paul Langley – Ymgynghorydd Uwch, Cartrefi Cymunedol
Cymru Helen Northmore – Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig
Cymru (CIHC) Hayley Selway – Pennaeth Tai a Gwasanaethau Adeiladu ar
gyfer Cyngor Bro Morgannwg (aelod o Fwrdd CIHC) CIHC Board) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi
ac Adfywio, a Paul Langley, Uwch-gynghorydd yn Cartrefi Cymunedol Cymru; Helen
Northmore, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC) a Sandra
Alexander, Rheolwr Incwm Tai, Cyngor Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i ddiwygio
lles. 3.2 Cytunodd Sioned Hughes i anfon rhagor o wybodaeth am: · yr ymagwedd
wahanol a gymerwyd yn Lloegr tuag at apeliadau · nifer y cartrefi
yn y sector rhentu sydd wedi eu hisosod yng Nghymru · nifer y bobl
ag anableddau sy'n cael eu heffeithio gan y cymhorthdal ystafell
sbâr · tystiolaeth
o'r ffordd y mae cymdeithasau tai yn parhau i fod heb ddiweddaru eu polisïau
trosglwyddo i sicrhau nad yw ôl-ddyledion yn ymwneud â diwygio lles yn rhwystr
i symud i gartrefi llai o faint. |
|
(09:50-10:40) |
Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 2 PAC(4)-13-15
papur 3 - Shelter Cymru PAC(4)-13-15 papur 4 - Cyngor ar Bopeth Cymru Cyngor ar Bopeth Cymru John Puzey – Cyfarwyddwr, Shelter Cymru Jennie Bibbings – Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter
Cymru Lindsey Kearton – Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth
Cymru Cyngor ar Bopeth Cymru Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Puzey, Cyfarwyddwr a Jennie Bibbings, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru; a Lindsey Kearton, Swyddog Polisi ac Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar
Bopeth Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles. |
|
(10:40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Items 6 & 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:40-10:50) |
Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:50-11:00) |
Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-13-15 papur 5 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Tynnodd Alan Morris sylw at y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch
Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru. 7.2 Nododd Aelodau y byddai llythyr drafft gan y Cadeirydd at June
Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth
Cymru yn cael ei ddosbarthu er mwyn cael eu sylwadau a chytundeb yn nes ymlaen
heddiw. |