Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2
Croesawodd y Cadeirydd y gwesteion o'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus yn Nhaleithiau Jersey. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papurau. 2.2
Cytunodd y Pwyllgor i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar Fabian Way, Abertawe yn nhymor yr hydref. |
|
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (4 Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (15 Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Cartrefi Cymunedol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Diwygiad Lles: Llythyr gan June Milligan (18 Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4, 5,
6 a 7 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:05-09:20) |
Gofal heb ei drefnu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch nifer o faterion yr hoffai gael y wybodaeth
ddiweddaraf amdanynt. Ar ôl cael ymateb, bydd yr Aelodau'n trafod a ydynt am
gynnal sesiwn dystiolaeth arall ar ofal heb ei drefnu gyda'r Cyfarwyddwr
Cyffredinol. |
|
(09:20-09:50) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law am lywodraethu
byrddau iechyd yn y cyfarfod ar 16 Mehefin. 5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion a
nodwyd gan yr Aelodau. Ar ol cael y wybodaeth hon, bydd y clercod yn paratoi
adroddiad drafft ar lywodraethu byrddau iechyd ac yn nodi'r problemau ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel astudiaeth achos. |
|
(09:50-10:20) |
Diwygiad Lles: Trafod y materion allweddol PAC(4)-18-15 Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y papur materion allweddol ac awgrymodd nifer o
faterion yr hoffai eu gweld yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad. 6.2 Cytunodd yr Aelodau i ofyn am gopi o'r fframwaith y cytunwyd arno ar
gyfer gweinyddu Taliadau Tai Dewisol gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10:20-10:45) |
Consortia Addysg Rhanbarthol: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-18-15
Papur 2 PAC(4)-18-15
Papur 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd yr Aelodau friff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodwyd fod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi diddordeb yn cynnal ymchwiliad
i'r mater. 7.2 Nododd yr Aelodau y bydd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr
Archwilydd Cyffredinol ar gael ym mis Gorffennaf. |