Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Jocelyn Davies. |
|
(09:00-09:10) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau.
Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Dr Peter Higson (Eitem 2.2) yn ystod rhan
breifat y cyfarfod. |
|
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Gyngor Celfyddydau Cymru (13 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Peter Higson (15 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
Diwygiad Lles: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Tai Cymru a Gorllewin Lloegr (Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (21 Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:10-10:15) |
Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 5 PAC(4)-15-15
Papur 1 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil June
Milligan - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth
Cymru John
Howells - Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Sara Ahmad -
Economegydd, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth
Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac
Adfywio, Llywodraeth Cymru; a Sara Ahmad, Economegydd, Llywodraeth Leol a
Chymunedau, Llywodraeth Cymru, ar ei ymchwiliad i ddiwygiad lles. 3.2 Cytunodd
June Milligan i wneud y canlynol: · Anfon nodyn ynghylch y safleoedd y
mae awdurdodau lleol wedi'u rhyddhau ar gyfer datblygu tai; · Gwneud sylw ar sefyllfa bresennol y
cymdeithasau tai yn newid eu polisïau dyraniadau fel nad oes gwaharddiad ar
denantiaid sydd â rhent fel ôl-ddyledion yn seiliedig ar ddyledion budd-dal
tai; · Gwneud sylw ar effaith y cap
budd-dal is arfaethedig yng Nghymru; · Dadansoddiad o ardal awdurdodau
lleol o dai yr effeithir arnynt (pan fo'r wybodaeth hon ar gael) gan y cap
budd-dal is arfaethedig. |
|
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a
6, a'r cyfarfod ar 9 Mehefin yn ei gyfanrwydd Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:15-10:35) |
Diwygiad Lles: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10:35-11:00) |
Rhagnodi Gofal Sylfaenol: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(4)-15-15
Papur 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunwyd y bydd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn briffio'r Pwyllgor ar ei femorandwm ar Ragnodi Gofal
Sylfaenol yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mehefin. |