Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Kay 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(08:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(08:30-08:35)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

(08:35-09:30)

3.

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 4

Richard Jones, Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Dave Cooil, Pennaeth Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Ian Hughes, Rheolwr Busnes a Gweithrediaeth Statudol, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ynglŷn â'i ymchwiliad i werth am arian buddsoddi mewn traffyrdd a chefnffyrdd. Cytunodd yr Asiantau Cefnffyrdd i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am gydgysylltu'r gwaith o gynnal a chadw a gwella traffyrdd a chefnffyrdd a heolydd lleol, a nifer y blynyddoedd na chafwyd cadarnhad ar gyfer eu dyraniad o'r gyllideb tan ar ôl 1 Ebrill.

 

(09:30-10:45)

4.

Trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Peter Higson OBE, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch ei drefniadau llywodraethu.

 

4.2     Cytunodd Dr Higson i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â:

·         hynt trafodaethau'r bwrdd ynghylch Ysbyty Glan Clwyd gan gynnwys materion recriwtio;

·         ‘Well North’;

·         gohebiaeth mewn perthynas ag Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig y llyfryn;

·         hyfforddiant ar gyfer aelodau'r bwrdd;

·         dangosyddion perfformiad.

 

(10:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

 

Cofnodion:

5.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:45-11:00)

6.

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.