Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor yr etholwyd William Graham i'r
Pwyllgor ddydd Mawrth ond anfonodd ei ymddiheuriadau oherwydd gwrthdaro yn ei
ddyddiadur. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Christine Chapman yn
dirprwyo ar ei rhan. 1.4 Croesawodd y Cadeirydd Kate Kuring, rheolwr archwilio perfformiad o
Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Victoria, Awstralia, sy'n ymweld â Swyddfa
Archwilio Cymru fel rhan o daith i astudio swyddfeydd archwilio y DU. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. |
|
Cyflogau Uwch-reolwyr: Llythyr gan Richard Tompkins, Cyfarwyddwr Cyflogwyr GIG Cymru (3 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyflogau Uwch-reolwyr: Gwybodaeth ychwanegol gan Peter Smith, The Hay Group (Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyflogau Uwch-reolwyr: Papur diwygiedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4, 5, 6, 7, 8, 9 a 10 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:05-10:05) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a'r camau nesaf PAC(4)-10-14(papur 1) PAC(4)-10-14(papur 2) PAC(4)-10-14(papur 3) Papur Briffio y Gwasanaeth Ymchwil – Cyflog uwch-swyddogion yn y sector
addysg bellach Papur Briffio y Gwasanaeth Ymchwil – Lefelau cyflog yn y sector cyhoeddus
a’r sector preifat Papur Briffiio Swyddfa Archwilio Cymru – Cyflogau Uwch-reolwyr Papur Briffio y Gwasanaeth Cyfreithiol Anthony Barrett – Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 4.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ddau
adroddiad Buddiannau'r Cyhoedd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ar 30
Ionawr 2014, ar Gyflogau a Phensiynau Uwch-swyddogion - Cyngor Sir Caerfyrddin
a Chyflogau a Phensiynau Uwch-swyddogion - Cyngor Sir Penfro. 4.2 Cytunodd yr Aelodau i gasglu rhagor o dystiolaeth fel rhan o'r
ymchwiliad gan swyddogion monitro awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sectorau
addysg bellach ac addysg uwch a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. |
|
(10:05-10:25) |
Rheoli Cyflyrau Cronig: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-10-14(papur 4) Cofnodion: 5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli
Cyflyrau Cronig. 5.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn
am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 5.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal
ymchwiliad i'r mater. |
|
(10:25-10:45) |
Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Papur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-10-14(papur 5) Cofnodion: 6.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Strategaeth
leoli Llywodraeth Cymru. 6.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn
am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 6.3 Ar ôl i'r ymateb ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal
ymchwiliad i'r mater. |
|
(11:00-11:20) |
Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Y camau nesaf |
|
(11:20-11:50) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus PAC(4)-10-14(papur 8) Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. |
|
(11:50-12:20) |
Gofal heb ei drefnu: Cytuno ar yr adroddiad terfynol PAC(4)-10-14(papur 9) Cofnodion: 9.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyfeirio at adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru, Rheoli Cyflyrau Cronig, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Anfonir drafft
pellach ar gyfer cytundeb terfynol drwy e-bost a nododd yr Aelodau y cyhoeddir
yr adroddiad ar 24 Ebrill. |
|
(12:20-13:00) |
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-10-14(papur 10) Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o
argymhellion. Bydd yr Aelodau'n ail-drafod drafft pellach yn y cyfarfod nesaf. |