Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(13:15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Christine Chapman yn dirprwyo ar ei rhan. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jocelyn Davies.

 

(13:15 - 14:15)

2.

Gofal heb ei drefnu: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dave Thomas – Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Swyddfa Archwilio Cymru

Stephen Lisle – Arbenigwr Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyda Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Gofal Heb ei Drefnu'. Daeth Dave Thomas a Stephen Lisle i'r cyfarfod gyda'r Archwilydd Cyffredinol. Yn ystod y sesiwn friffio, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

 

(14:15)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

(14:15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4, 5, 6, 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14:20 - 14:25)

5.

Gofal heb ei drefnu: Trafodaeth yr Aelodau ar y materion a godwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ofal heb ei drefnu. Yn benodol, cytunodd yr Aelodau i ganolbwyntio ar ofal sylfaenol lleol, gan gynnwys:

 

·       rôl meddygon teulu o ran darparu gofal heb ei drefnu

·       natur contractau meddygon teulu a'u heffaith ar ofal heb ei drefnu

·       darpariaeth y tu allan i oriau

·       y gwasanaeth '111'

·       y grwpiau sy'n defnyddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn aml

·       cynlluniau ar gyfer darparu gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol

 

Cam i'w gymryd:

 

Y clercod, ynghŷd â Swyddfa Archwilio Cymru, i baratoi papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad.

 

(14:25 - 14:30)

6.

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 1)

PAC(4)-25-13 (papur 2)

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, gan godi'r materion a ganlyn:

 

·       Seilwaith TG mewn perthynas ag e-ddysgu

·       Cyfranogiad mewn perthynas â phecynnau dysgu ar-lein

·       Gwastraff bwyd mewn ysbytai

·       Sut y mae sticeri sgorio hylendid bwyd yn cael eu harddangos mewn ysbytai

 

 

 

(14:30 - 14:35)

7.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 3)

PAC(4)-25-13 (papur 4)

Cofnodion:

7.1 Mynegodd yr Aelodau siom ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru, ond teimla'r Aelodau y byddai'n fuddiol rhannu'r ohebiaeth honno gyda'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

(14:35 - 14:40)

8.

Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 5)

PAC(4)-25-13 (papur 6)

 

 

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhâd ynghylch y materion a ganlyn:

 

Y sail rhesymegol ar gyfer penderfynu pa ysgolion yng nghategori C sy'n cael eu dewis ar gyfer y buddsoddiad cyntaf o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, a rhestr o'r ysgolion hyn

Diffiniad o'r term 'addas i'r diben'

Y dull a ddefnyddir i archwilio ysgolion am asbestos

 

(14:40 - 14:45)

9.

Safon Ansawdd Tai Cymru: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 7)

PAC(4)-25-13 (papur 8)

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor fod ei swyddfa yn bwriadu gwneud gwaith yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

(14:45 - 16:15)

10.

Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg: Trafodaeth yr Aelodau ar yr adroddiad drafft

PAC(4)-25-13 (papur 9)

 

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunasant y byddent yn cytuno ar fersiwn derfynol drwy gyfnewid negeseuon e-bost.