Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:10)

1.

Ystyried gohebiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i'r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd

Cofnodion:

1.1        Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.

 

1.2        Nododd y Pwyllgor fod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal astudiaeth gwerth am arian ar gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru.

 

1.3        Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi nodyn briffio ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.

 

1.4        Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn yn amlinellu cwmpas ei ymchwiliadau i gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru ac i’r cymhorthdal y mae’n ei roi i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.

(9:10 - 9:20)

2.

Ystyried y cymorth a roddir i'r Pwyllgor

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adolygiad o’r cymorth a roddir i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

(9:20 - 9:30)

3.

Ystyried y potensial i geisio'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion a wnaed yn adroddiadau blaenorol y Pwyllgor

Cofnodion:

3. 1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ac i ddod gerbron y Pwyllgor, er mwyn i’r Pwyllgor wneud gwaith craffu ar y mater o weithredu’r  argymhellion a wnaed mewn adroddiadau Pwyllgor ar:

 

·         Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

·         Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus

·         Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion

 

(9:30 - 9:40)

4.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2013

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill tymor y gwanwyn/yr haf 2013.

(9:40 - 11:00)

5.

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ystyried yr adroddiad drafft terfynol

Cofnodion:

5.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a chytunodd i ystyried fersiwn wedi ei ddiwygio drwy e-bost.

Trawsgrifiad