Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 592KB) Gweld
fel HTML (734KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones AC. 1.3 Roedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo. |
|
(09.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.00 - 09.45) |
Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Sesiwn dystiolaeth 2 Eleanor Emberson, Prif Weithredwr, Revenue Scotland Colin Miller, Arweinydd Tîm Bil Cyllid yr Alban a Phwerau Treth Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Eleanor Emberson, Prif Weithredwr, Cyllid
yr Alban, Colin Miller, Cyllid yr Alban ac Arweinydd Tîm y Bil Pwerau Trethu a
Neil Broadfoot, Swyddog Cyfathrebu. 3.2 Cytunodd Eleanor Emberson i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r
Pwyllgor. |
|
(09.45 - 10.30) |
Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Sesiwn dystiolaeth 3 Geoff Yapp, Dirprwy Gyfarwyddwr, Treth Gorfforaeth, Rhyngwladol a Stamp,
Pennaeth Trethi Stamp, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Doug Stoneham, Uwch Swyddog Polisi, Datganoli, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Papur 1 - Ymateb Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’r ymgynghoriad Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Geoff Yapp, Dirprwy Gyfarwyddwr, Treth Gorfforaeth, Rhyngwladol a Stamp, Pennaeth Trethi Stamp, Cyllid a
Thollau Ei Mawrhydi a Doug Stoneham, Uwch Gynghorydd Polisi, Datganoli. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i ofyn am ragor
o wybodaeth. |
|
(10.45 - 11.30) |
Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Sesiwn dystiolaeth 4 Isobel Moore, Pennaeth Busnes, Rheoliadau ac Economeg, Cyfoeth Naturiol
Cymru Rebecca Favager, Rheolwr Gwastraff ac Adnoddau, Cyfoeth Naturiol Cymru Papur 2 - ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r ymgynghoriad Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Isobel Moore, Pennaeth Busnes,
Rheoliadau ac Economeg, Cyfoeth Naturiol Cymru a Rebecca Favager, Rheolwr
Gwastraff ac Adnoddau, Cyfoeth Naturiol Cymru |
|
(11.30 - 12.30) |
Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) Sesiwn dystiolaeth 5 John Cullinane, Cyfarwyddwr Polisi Treth, Sefydliad Siartredig Trethiant Claire Thackaberry, Swyddog Technegol, y Grŵp Diwygio Treth Incymau
Isel Papur 3 - ymateb y Sefydliad Siartredig Trethiant i’r ymgynghoriad Papur 4 - ymateb y Grŵp Diwygio Treth Incymau Isel i’r ymgynghoriad Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Cullinane, Cyfarwyddwr Polisi
Treth, Sefydliad Siartredig Trethiant a Claire Thackaberry, Swyddog Technegol, y Grŵp Diwygio Treth Incymau
Isel 6.2 Cytunodd Claire Thackaberry i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r
Pwyllgor. |
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 8 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.30 - 12.45) |
Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(13.30 - 14.30) |
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 Sesiwn dystiolaeth 1 David Melding AC, Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola Callow, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol Papur 5 – Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17 Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn Aelod
o Gomisiwn y Cynulliad. 9.2 Bu’r Aelodau yn holi David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a Chomisiynydd
y Cynulliad Dros Dro, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a
Nicola Callow, y Cyfarwyddwr Cyllid yn fanwl am gyllideb ddrafft Comisiwn y
Cynulliad 2016-17. 9.3 Datganodd Jocelyn Davies AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol
Sefydlog 17.24A: ·
Aelod yn rhoi’r gorau i’w sedd ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. |
|
(14.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 11, 12 a 13 o gyfarfod heddiw ac eitem 1 o’r cyfarfod ar 7 Hydref
2015. Cofnodion: 10.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.30 - 14.45) |
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-17: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 11.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn
Aelod o Gomisiwn y Cynulliad. 11.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(14.45 - 14.55) |
Adroddiad Alldro Llywodraeth Cymru 2014-15: Papur 6 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y
Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 12.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid a Busnes y Llywodraeth. |
|
(14.55 - 15.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 Papur 7 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y
Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 13.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Cyllid a Busnes y Llywodraeth. |