Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00-09:45) |
Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi Georgina
Haarhoff, Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru Sarah
Tully, Rheolwr Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru Bethan
Davies, Swyddog Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafodd y
Pwyllgor bapur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi. 1.3
Gofynnodd
yr Aelodau am y wybodaeth ychwanegol ganlynol: ·
rhestr o
wastraff cymwys; ·
rhestr o
safleoedd tirlenwi awdurdodau lleol; a ·
rhestr o’r
191 o gyrff Amgylcheddol a chyrff Dosbarthu Amgylcheddol sydd wedi’u cofrestru
yng Nghymru. |
|
(09:45-10:00) |
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), a chytunodd i wahodd y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod ar gyfer gofyn rhagor
o gwestiynau iddo. |
|
(10:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(10:00-11:00) |
Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Leighton
Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Gareth
Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Clare
Smith, Arweinydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru). 5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu i’r
Pwyllgor: ·
unrhyw
amcangyfrifon o gostau a geir yn yr achosion a gyflwynwyd iddo gan y chwe
awdurdod lleol ar gyfer uno gwirfoddol; ·
eglurhad
ynghylch a oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i uno cronfeydd pensiwn, a
gwybodaeth ynghylch a oes rheolau penodol o ran cronfeydd pensiwn llywodraeth
leol; ac ·
adroddiad y
Comisiwn Staff blaenorol (a gyhoeddwyd ym mis Medi 1996 o bosibl) mewn
perthynas ag uno blaenorol. |
|
(11:00-12:00) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 12 Nick Bennett -
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Susan Hudson -
Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Katrin Shaw -
Rheolwr a Chynghorydd Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(12:00-12:30) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Y Prif Faterion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion yn ei
ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 7 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(10:00-10:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |