Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(08:45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC.

 

(08:45-08:50)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gofyn am eglurhad ar y ffigyrau o amgylch y diogelwch a gynigir i'r Gyllideb Llywodraeth Leol.

 

(08:50-09:45)

3.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 10

Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Nicola Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

3.2     Cytunodd Nicola Williams i ddarparu copi o'r llythyr at gleifion yn amlinellu proses gwynion y byrddau iechyd a throi am gymorth at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.3     Cytunodd Kate Chamberlain i ddarparu ffigurau ar y sector gofal iechyd annibynnol yng Nghymru a nifer yr unedau preifat o fewn sefydliadau'r GIG.

 

(09:45-10:45)

4.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 11

Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Caroline Turner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Sanjiv Vedi, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Uned Gwynion Canolog, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Caroline Turner a Sanjiv Vedi, Llywodraeth Cymru ar ei ymchwiliad i Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(10:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6, 7 ac 8 o gyfarfod heddiw ac eitemau 1 a 2 o gyfarfod dydd Mercher 25 Mawrth.

Cofnodion:

5.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:45-11:00)

6.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:00-11:10)

7.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Cytunodd yr Aelodau ar y rhaglen waith ar gyfer tymor yr haf. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch Trethi Busnes.

 

(11:10-11:20)

8.

Casglu trethi datganoledig: Dull o gynnal y gwaith craffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Trafododd yr Aelodau y dull o gynnal y gwaith craffu ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Gasglu Trethi Datganoledig.