Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a Nick Ramsey.

 

1.3        Croesawodd y Cadeirydd Mohammad Asghar a oedd yn dirprwyo ar ran Nick Ramsey.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09:05-10:30)

3.

Yr Arfer Gorau mewn Prosesau Cyllidebol: Sesiwn dystiolaeth 5

FIN(4)-24-14_w - Papur 1 - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Gwasanaethau Corfforaethol

Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau Ariannol

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yng nghyswllt yr arfer gorau mewn prosesau cyllidebol.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am sut y mae'n ymgysylltu ag arbenigwyr academaidd ac yn eu defnyddio i gynhyrchu data economaidd. 

 

(10:40-11:10)

4.

Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad ar y fflyd

FIN(4)-24-14 - Papur 2 – Adroddiad Baker Tilly

FIN(4)-24-14 - Papur 3 - Papur Briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Adroddiad Baker Tilly

Research Briefing

 

Isobel Garner, Cadeirydd, Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Mr Kevin Thomas, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Rheolwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Swyddfa Archwilio Cymru ar ei Adroddiad ar y fflyd.

 

4.2 Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu gwybodaeth am ei dulliau ar gyfer sicrhau bod y cynllun yn cydbwyso'r angen am leihau costau, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac effaith amgylcheddol.

 

 

 

(11.10 - 11.25)

5.

Swyddfa Archwilio Cymru: Ystyried y Cynllun Ffioedd

FIN(4)-24-14 - Papur 4 - Cynllun Ffioedd Swyddfa Archwilio 2015

 

Isobel Garner, Cadeirydd, Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Mr Kevin Thomas, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Rheolwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Swyddfa Archwilio Cymru ar ei gynllun ffioedd ar gyfer 2015.

 

(11:25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 7, 8 & 9

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:25-11:55)

7.

Swyddfa Archwilio Cymru: Caffael archwilwyr

FIN(4)-24-14 - Papur 5 - Nodyn Briffio ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Allanol

 

Isobel Garner, Cadeirydd, Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Mr Kevin Thomas, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Rheolwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Swyddfa Archwilio Cymru ar Gaffael Archwilwyr.

 

(11:55-12:00)

8.

Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad ar y fflyd - Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12:00-12:05)

9.

Swyddfa Archwilio Cymru: Ystyried y Cynllun Ffioedd - Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12:05-12:35)

10.

Yr Arfer Gorau mewn Prosesau Cyllidebol: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.