Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:30-09:00) |
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Trafod yr adroddiad drafft FIN(4)-09-14 (papur 1) Cofnodion: 1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried
drafftiau pellach y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(09:05-10:00) |
Bil Cymru: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol FIN(4)-09-14(papur2) Bil Cymru, (fel y'i diwygiwyd yn y
Pwyllgor 7 Mai, 2014) Briff cyfreithiol Briff ymchwil Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid Andrew Jeffreys, Dirprwy
Gyfarwyddwr Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Gareth Morgan, Dirprwy
Gyfarwyddwr Dros Dro Diwygio Ariannol, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid, ynghylch Bil Cymru: Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol. 4.2 Cytunodd
y Gweinidog Cyllid i ddarparu nodyn ynghylch y gweithdrefnau ymgynghori ar
gyfer newidiadau deddfwriaethol. |
|
(10:00-11:00) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Sesiwn dystiolaeth 1 FIN(4)-09-14(papur 3) Briff ymchwil Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Matt Denham Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid,
ynghylch yr ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol. 5.2 Cytunodd
y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn gydag amserlen ar gyfer rhaglen waith y grŵp cynghori ar dreth. |
|
(11:15-12:15) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Sesiwn dystiolaeth 2 FIN(4)-09-014(papur 4) Briff ymchwil Dr Joachim Wehner - London School of Economics Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dr Joachim Wehner (Ysgol Economeg
Llundain) ynghylch yr ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol. |
|
(12:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 8 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:15-12:30) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |