Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps Dirprwy Glerc: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
(11:30-12:30) |
Ymchwiliad i adfywio canol trefi: sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog EBC(4)-10-11 Papur 1, 2 & 3 Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Pwyllgor: · Gwybodaeth am bolisïau cynllunio sy’n cynnwys y meini prawf o ran angen mewn perthynas â manwerthu. · Rhestr o’r cynigion a gyfeiriwyd i wasanaeth adolygu Comisiwn Dylunio Cymru. · Cymhariaeth o’r ddarpariaeth bresennol o grantiau â’r symiau a ddyrennid yn hanesyddol gan Awdurdod Datblygu Cymru cyn iddo uno â Llywodraeth Cymru. · Manylion yr £8 miliwn a ddyrannwyd i Fae Caerdydd o gyllideb y Gweinidog.
|
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |