Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
(9:30-10:30) |
Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020 · Veronica Gaffey, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyfarwyddiaeth Datblygu y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol Trwy gynhadledd fideo Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Veronica Gaffey i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst. 2.2 Cytunodd Veronica Gaffey i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch sut y byddai’r dull aml-gronfa ar gyfer strategaethau datblygu a gaiff eu harwain gan y gymuned yn gweithio o ran defnyddio cyfraddau ymyrryd gwahanol rhwng y gwahanol gronfeydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat. |
||
(10.30-11.00) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol – y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol): Trafod yr Adroddiad Drafft Cofnodion: 4.1Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol). |
|
(11:00-11:30) |
Trafod ffyrdd o weithio Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffyrdd o weithio yn y dyfodol. |
|
Trawsgrifiad |