Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(10:00 - 11:00)

2.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13: Sesiwn i graffu ar waith Gweinidog

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

  • Y dulliau monitro a ddefnyddir gan ei adran i ddangos llwyddiant y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid posibl ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd y Great Western i Abertawe.
  • Eglurhad ynghylch sut y caiff y symiau yn y gyllideb nad ydynt yn ariannol eu gosod.
  • Adroddiad cynnydd am y fenter ‘smartcard’.

 

3.

Papurau i'w nodi

EBC(4)-07-11 Papur 2

 

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013: Tystiolaeth gan Alun Davies

 

EBC(4)-07-11 Papur 3

 

Y Pwyllgor Menter a Busnes: Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:

·         Tystiolaeth ysgrifenedig oddi wrth y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd am y gyllideb ddrafft.

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2011

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.

5.

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 : Trafod yr Adroddiad Drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyrau drafft at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau.  

Trawsgrifiad