Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Daeth ymddiheuriadau i law gan Ken Skates AC. Roedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo ar ei ran.

(10:00-11:00)

2.

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013: Sesiwn Graffu ar Waith y Gweinidog

EBC(4)-06-11 Papur 1

 

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidogion.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i anfon yr eitemau a ganlyn i sylw’r Pwyllgor:

 

  • Enghreifftiau o uno colegau sydd wedi arwain at arbedion.
  • Ffigyrau sy’n ymwneud â’r cyllid ychwanegol a fydd ei angen i gwrdd â’r cynnydd mewn ffioedd dysgu i fyfyrwyr Cymru, a ffigurau sy’n gysylltiedig â tharddiad y cyllid ychwanegol hwn.
  • Nodyn ynghylch y cynnydd mewn cyllid a fydd ar gael ar gyfer y Coleg Ffederal ac Athrofa Prifysgol Blaenau'r Cymoedd.
  • Nodyn ynghylch a gaiff y dyraniad cyllidebol ar gyfer Uned Gyflawni’r Iaith Gymraeg ei ddefnyddio ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg.
  • Nodyn ynghylch y dyraniad cyllidebol ar gyfer y Mudiad Ysgolion Meithrin.

 

(11:00 - 12:30)

3.

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013: Sesiwn Graffu ar Waith y Gweinidog

EBC(4)-06-11 Papur 2

 

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

James Price;  Cyfarwyddwr Cyffredinol, BMTG
Rob Hunter;  Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i anfon yr eitemau a ganlyn i sylw’r Pwyllgor:

·                     Nodyn ar y trosglwyddiadau cyllidebol a wnaed hyd yn hyn rhwng gwahanol rannau o bortffolio’r Gweinidog.

·                     Papur ar y cynllun cyllid busnes ad-daladwy.

·                     Mewn perthynas â’r cynllun buddsoddi i arbed a’r rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi, manylion ynghylch unrhyw brosiectau llwyddiannus a pha arbedion a gaiff eu gwireddu o ganlyniad i’r prosiectau hyn.

 

4.

Papurau i'w nodi

EBC(4)-06-11 Papur 3

 

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013: Tystiolaeth gan Huw Lewis

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ganlyn:

 

·         Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013: tystiolaeth gan Huw Lewis

 

 

Trawsgrifiad