Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau, cyflwyniad a dirprwyon

Cofnodion:

1.1. Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Croesawodd y Cadeirydd Eluned Parrott i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Menter a Busnes.

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Adfywio ( 9.30 -10.15)

EBC(4)-02-11 Papur 1

 

·         Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

·         Richard Harris, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfywio Strategol a Blaenau'r Cymoedd

·         Chris Warner, Pennaeth Polisi - Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau.

 

 

3.

Sesiwn i graffu ar waith y Dirprwy Weinidog: Rhaglenni Ewropeaidd ( 10.15 - 11.00)

EBC(4)-02-11 Papur 2 

 

·         Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

·         Damien O'Brien, Cyfarwyddwr, WEFO

·         Jane McMillan, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Is-adran Rheoli Rhaglenni a Chyllid, WEFO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Dirprwy Weinidog gan Aelodau.

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi:

·         Rhagor o wybodaeth am lwyddiant prosiectau cyllid Ewropeaidd

·         Rhagor o wybodaeth a data am nifer y bobl a chwmnïau sydd wedi cael budd o gyllid Ewropeaidd

4.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ( 11.00 - 12.00)

EBC(4)-02-11 Papur 3

 

·         Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Gweinidog gan Aelodau.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch gwahaniaethau rhwng adfywio ac adnewyddu economaidd yn sgîl y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gynt yn y cyfarfod.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.

5.

Papurau i'w nodi

·         Gohebiaeth gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011

 

EBC(4)-02-11 p4  (Saesneg yn Unig)

 

·         Gohebiaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011

 

EBC(4)-02-11 p5 (Saesneg yn Unig)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ganlynol:

·         Gohebiaeth gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011

·         Gohebiaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011

 

Trawsgrifiad