Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a Dirprwyon (10:00 - 10:05)

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd dim ymddiheuriadau.

2.

Craffu ar waith y Gweinidog : Addysg a Sgiliau (10.05 - 11.00)

EBC(4)-01-11 Papur 1

 

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Owen Evans, Cyfarwyddwr, Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cafodd y Gweinidogion eu holi gan yr Aelodau.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

·         Data ychwanegol am y gwahaniaeth rhwng y rhywiau yn y maes adeiladu

·         Adroddiad ynghylch y diweddaraf am y 18 cam gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc 2011-2015

·         Gwybodaeth am y cyfraddau o bobl sy’n rhoi’r gorau i brentisiaethau.

3.

Craffu ar waith y Gweinidog : Trafnidiaeth (11.00 - 12.00)

EBC(4)-01-11 Papur 2 (Saesneg yn Unig)

 

Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Jeff Collins,  Cyfarwyddwr, Y Grŵp Seilwaith)

Tim James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio).

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’i swyddogion, i’r cyfarfod.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

·         Newidiadau i werthuso a monitro prosiectau trafnidiaeth i reoli gorwariant

·         Argaeledd arian cydgyfeirio ar gyfer trydaneiddio’r cyswllt rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, a’r cyfrifoldeb dros ariannu’r gwaith hwn

·         Cyflwyno trenau deufodd, a’r cynnig i dreialu’r rhain ar y llwybr rhwng Caerdydd ac Abertawe

·         Yr angen i wella’r cysylltiadau seilwaith rheilffordd heibio i Gaerdydd

·         Achos busnes Llywodraeth flaenorol y DU dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, a’r newidiadau sydd wedi digwydd ers llunio hynny

·         Y newid yn y cydbwysedd gwariant rhwng prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, a’r cynlluniau ynghylch beth ddylai’r cydbwysedd hwn fod yn y dyfodol

·         Cynnydd o ran cyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig ac Aberystwyth

·         Y rhaglen Gwelliant Cenedlaethol i orsafoedd trenau

4.

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

4.1Roedd llythyr wedi cyrraedd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a chytunodd y Cadeirydd i’w ddosbarthu i’r Aelodau.

Trawsgrifiad