Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 384KB) Gweld
fel HTML (383KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Gwenda Thomas AC. 1.2 Datganodd Eluned
Parrott AC fod ei gŵr
yn gweithio i Sefydliad Addysg Uwch. 1.3 Datganodd Keith
Davies AC fod ei fab yn astudio mewn Sefydliad Addysg Uwch. |
||
(09.30-10.15) |
Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+ Yr Athro Richard Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol
Abertawe Yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a
Menter), Prifysgol Bangor Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa, Addysg Uwch Cymru Brwsel Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd yr Athro Richard Davies, yr Athro David
Shepherd a Berwyn Davies gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(10.30-11.00) |
Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+ Iestyn Davies, Prif Weithredwr, ColegauCymru Siân Holleran, Cydlynydd Rhyngwladol, ColegauCymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd Iestyn Davies a Siân Holleran gwestiynau gan
Aelodau o’r Pwyllgor. 3.2 Cynigiodd Iestyn Davies ddarparu gwybodaeth bellach
ymhen rhai misoedd yn nodi sut mae Sefydliadau Addysg Bellach yn gweithio gyda
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) i gefnogi’r sector adeiladau a
pheirianneg. |
|
(11.00-11.30) |
Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+ Jenny Scott, Cyfarwyddwr, British Council Cymru Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr, Asiantaeth Genedlaethol
y DU ar gyfer Erasmus+, British Council Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Atebodd Jenny Scott a Ruth Sinclair-Jones gwestiynau
gan Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(11.30-12.15) |
Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+ Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Bellach a
Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru Michaela Renkes, Uwch Reolwr Cynllunio a Chyllido Addysg
ôl-16, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a
Thechnoleg, Huw Morris, Andrew Clark a Michaela Renkes gwestiynau gan Aelodau
o’r Pwyllgor. 5.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i
ddarparu adborth ynghylch y fenter Cymru Fyd-eang yn dilyn ei chyfarfod cyntaf,
y bwriedir ei chynnal fis Tachwedd. 5.3 Cynigiodd Huw Morris ysgrifennu at y Pwyllgor gan
nodi rhan Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud cynigion am gyllid UE gan
gynnwys nifer y sefydliadau addysg sydd wedi gwneud cynnig (gan gynnwys
manylion yn ôl ardal) a’r ceisiadau hynny a wnaed ar y cyd, tynnwyd yn ôl neu a
gyfunwyd. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyswllt Amgylchedd Cymru i'r Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
||
(12.15-12.20) |
Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar Gyfleoedd
Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed. |