Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mick Antoniw AC, Mohammad Ashgar AC, Eluned Parrott AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Gwenda Thomas AC.

(10.30-11.45)

2.

Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Jim O’Toole, Rheolwr Gyfarwyddwr, Porthladd Mostyn

Alec Don, Prif Weithredwr, Porthladd Aberdaugleddau

Paddy Walsh, Rheolwr Porthladdoedd y DU, Irish Ferries

Capten Ian Davies, Rheolwr Llwybrau ar gyfer Stena Line, De Môr Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Capten Ian Davies, Paddy Walsh, Alec Don a Jim O’Toole gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Paddy Walsh i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         Adroddiad ar Farchnad Mordeithiau’r DU gan Gymdeithas y Diwydiant Mordeithiau.

·         Siambr Forgludiant y DU – Gwybodaeth atodol a gyflwynwyd i Astudiaeth Twf Morol Llywodraeth y DU.

(11.45-12.45)

3.

Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Yr Athro Colin Jago, Deon y Coleg, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor

Ieuan Wyn Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol, Parc Gwyddoniaeth Menai

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd yr Athro Colin Jago ac Ieuan Wyn Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Ymateb i'r camau gweithredu a ddeilliodd o gyfarfod 17 Mehefin ar Gaffael Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y Papur gan y Pwyllgor.