Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas, Dafydd Elis-Thomas, Mick Antoniw a Rhun ap Iorwerth.

(09.30-10.30)

2.

Adfywio canol trefi - craffu dilynol

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

Steffan Roberts, Rheolwr Adfywio, Cartrefi a Lleoedd

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio, y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Kath Palmer, Steffan Roberts a Neil Hemington gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr hyn a ganlyn:

·         Nodyn ar nifer yr ymwelwyr â Bargoed, yn dilyn gosod archfarchnad Morrisons yng nghanol y dref.

·         Gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i ddyrannu cyllid o’r gronfa trechu tlodi, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac eglurhad o ran sut mae’n cyd-fynd â’r polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ gan gyfeirio’n benodol at yr enghraifft o’r cyllid a ddarperir ar gyfer Ynys y Bari.

·         Nodyn i egluro pam y mae’n ymddangos bod polisi ‘canol trefi yn gyntaf’ Llywodraeth Cymru dim ond yn cael ei roi ar waith yn sgil datblygiadau manwerthu heb ystyriaeth o leoliad swyddfeydd neu wasanaethau a staff awdurdodau lleol.

(10.40-11.25)

3.

Adfywio canol trefi

Andy Godfrey, Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Llywodraeth Leol, Consortiwm Manwerthu Prydain a Rheolwr Polisi Cyhoeddus Boots

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Andy Godfrey gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

(11.25-12.25)

4.

Adfywio canol trefi

Russell Greenslade, Prif Weithredwr, Ardal Gwella Busnes Abertawe

Antonia Pompa, Cydlynydd, Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful

Ojay McDonald, Rheolwr Polisi, y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd

Rhiannon Kingsley, Rheolwr Canol y Dref, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Russell Greenslade, Antonia Pompa, Ojay McDonald a Rhiannon Kingsley gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Ojay McDonald i ddarparu copi o adroddiad y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd ar ei hymgynghoriad ar ardrethi busnes pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben.

4.3 Cytunodd Russell Greenslade i ddarparu gwybodaeth bellach am fanteision Ardaloedd Gwella Busnes a gweithgareddau Ardal Gwella Busnes Abertawe.

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Adroddiad gan yr ATCM ar Barcio mewn Canol Trefi (Saesneg yn unig)

Adroddiad a ddarparwyd gan yr ATCM ar barcio mewn canol trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.