Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.25-09.45) |
Ymchwiliad i Fuddsoddi ar y Cyd mewn Sgiliau - Papur Cwmpasu (preifat) Cofnodion: 1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd
ymddiheuriadau na dirprwyon. |
||
(09.45-10.45) |
Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Craffu Dilynol Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws mewn Trafnidiaeth,
Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol De Cymru Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Cole. |
|
(11.00-12.00) |
Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Craffu Dilynol Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn: ·
Gwybodaeth am gyflenwi tocynnau clyfar / integredig yng
Nghymru; ·
Gwybodaeth ynghylch y camau sydd wedi’u cynllunio i
sicrhau bod rheilffyrdd Cymru yn hygyrch i bobl â phroblemau symudedd – y fanyleb
dechnegol o ran gallu i ryngweithredu (PRM-TSI), a chydymffurfedd â Deddf
Cydraddoldeb 2010; ·
Gwybodaeth am gynigion o ran cerbydau erbyn haf 2015, a
chynigion manwl erbyn Nadolig 2015. 4.3 Cytunodd y Pwyllgor i barhau i adolygu’r mater. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Papur Porterbrook ac Angel Trains Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i William Graham ynghylch Masnach a Mewnfuddsoddi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |