Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas; nid oedd neb yn dirprwyo.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau - Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

·         Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

·         Teresa Holdsworth - Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru

·         Suzanne Chisholm - Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru a Suzanne Chisholm,  Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau yn holi’r Dirprwy Weinidog ynghylch y cynnydd a wnaed ers i’r Pwyllgor Menter a Busnes gyhoeddi ei adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ym mis Hydref 2010.

 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau i roi gwybodaeth a ffigurau manylach i’r Pwyllgor ynghylch faint o gynlluniau sy’n bodoli i fynd i’r afael â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

3.1 Cynigodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Undeb Ewropeaidd - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau.

 

Trawsgrifiad