Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 345KB) Gweld
fel HTML (383KB) |
||
(09.30-10.30) |
Ystyriaeth o'r Adroddiad Drafft ar Botensial yr Economi Forol yng Nghymru Cofnodion: 1.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar Botensial yr Economi
Forol yng Nghymru. |
|
(10.45-11.00) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Undebau Llafur. |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC a Gwenda Thomas AC. |
||
Craffu ar y Gyllideb Ddrafft |
||
(11.00-12.00) |
Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu
Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-Adran Addysg Uwch,
Llywodraeth Cymru Andrew Clark, Dirprwy Cyfarwyddwr, Is-Adran Addysg
Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.1 Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Huw
Morris, Neil Surman ac Andrew Clark gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 4.1.2 Cynigiodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ddarparu’r
hyn a ganlyn: ·
dadansoddiad o wir nifer y myfyrwyr o Loegr a myfyrwyr rhyngwladol a
ymunodd â'r system addysg uwch yng Nghymru wedi'i fesur yn erbyn y nifer
ddisgwyliedig ar gyfer y pedair blynedd academaidd ddiwethaf. ·
adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar y canlyniadau a bennwyd ar gyfer y rhaglen
cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran, Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Cymru,
pan fydd y broses gymeradwyo wedi'i chwblhau. ·
adrodd yn ôl i'r Pwyllgor am y gwersi a ddysgwyd a fydd yn sicrhau y bydd y
rhaglen hyfforddiaethau ddiweddaraf yn effeithiol ac yn sicrhau gwerth da am
arian ac yn sicrhau cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar hyfforddeiaethau a
gostyngiad yn y nifer sy'n rhoi'r gorau iddynt, pan fydd hi wedi gorffen ei
hadolygiad o hyfforddeiaethau. |
|
(14.00-15.00) |
Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Simon Jones, Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.2.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth, a Simon Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 4.2.2 Cynigiodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth, ddarparu'r wybodaeth a ganlyn: ·
cymhariaeth o un flwyddyn i'r llall o Gyllideb Atodol 2015-16 a'r Gyllideb
Ddrafft ar gyfer 2016-17 ·
eglurhad ysgrifenedig o'r dyraniad cyllid i gam gweithredu'r cynllun Ffyrdd
a Rheilffyrdd ·
eglurhad ysgrifenedig o'r gostyngiad yn y dyraniad refeniw Economi a
Gwyddoniaeth rhwng Cyllideb Atodol 2015-16 a'r Gyllideb ddrafft ar gyfer
2016-17, gan ystyried yn benodol y gwasanaethau neu raglenni y bydd y
gostyngiadau hyn yn effeithio arnynt fwyaf yn 2016-17 ·
enghreifftiau o gwmnïau mewn rhai sectorau sydd wedi cyflawni canlyniadau /
effaith dda o ran twf a swyddi; dadansoddiad o sut yr aed ati i fesur maint eu
llwyddiant; a gwybodaeth am feysydd penodol yn y gyllideb lle mae'r Gweinidog
wedi cynyddu dyraniadau ar gyfer 2016-17 yn seiliedig ar berfformiad da yn y
gorffennol. Cytunodd y Gweinidog hefyd y byddai'r nodyn yn amlinellu'r
gweithgareddau aflwyddiannus neu rai nad oeddent yn darparu gwerth am arian, na
fyddant yn cael eu hariannu yn 2016-17 o ganlyniad i hyn ·
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl am ei
phenderfyniad ynghylch y cynlluniau ardrethi busnes a gyflwynir yn 2016-2017 ·
nodyn am gyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer prosiectau a rhaglenni
trafnidiaeth sy'n para llawer o flynyddoedd ·
ystyried a allai'r dyraniad cyllid ar gyfer y seilwaith teithio llesol fod
yn fwy tryloyw a darparu dadansoddiad o ddyraniadau cyllid blynyddoedd
blaenorol. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Cyfleoedd Cyllido a Pholisi'r UE ar gyfer Cymru 2014-2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Bil Cymru Drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Etifeddiaeth y Pwyllgor Cyllid - proses y Gyllideb a chraffu ariannol ar ddeddfwriaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Ardrethi Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Horizon 2020 ac Erasmus+ Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.5.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.6.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |