Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.25-09.45)

1.

Ymchwiliad i Fuddsoddi ar y Cyd mewn Sgiliau - Papur Cwmpasu (preifat)

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.45-10.45)

3.

Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Craffu Dilynol

Yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws mewn Trafnidiaeth, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol De Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Cole.

(11.00-12.00)

4.

Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Craffu Dilynol

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         Gwybodaeth am gyflenwi tocynnau clyfar / integredig yng Nghymru;

·         Gwybodaeth ynghylch y camau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod rheilffyrdd Cymru yn hygyrch i bobl â phroblemau symudedd – y fanyleb dechnegol o ran gallu i ryngweithredu (PRM-TSI), a chydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010;

·         Gwybodaeth am gynigion o ran cerbydau erbyn haf 2015, a chynigion manwl erbyn Nadolig 2015.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i barhau i adolygu’r mater.

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Masnachfraint Rheilffordd Cymru a'r Gororau - Papur Porterbrook ac Angel Trains

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

5.2

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i William Graham ynghylch Masnach a Mewnfuddsoddi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.