Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Policy: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rees AC a Julie James AC. Dirprwyodd Jenny Rathbone AC
ar ran Julie James AC. 1.2 Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi'i ethol yn Aelod
o'r Pwyllgor yn lle Dafydd Elis-Thomas AC, a safodd i lawr. Diolchodd y
Cadeirydd i Dafydd Elis-Thomas AC am ei gyfraniad i'r Pwyllgor a chroesawodd
Rhun ap Iorwerth AC i'r Pwyllgor. |
||
(11:00 - 12:00) |
Craffu ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Tystion: - Edwina Hart AC, Gweinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - Dr Elizabeth Haywood, cyn gadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y
Dinas-ranbarthau - Professor Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Adran
Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd. - Dave Gilbert, Cyfarwyddwr a Dirprwy Prif Weithredwr
Cyngor Sir Gar Dogfennau atodol: EBC(4)-35-13(p1) - Tystiolaeth
Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y
Dinas-ranbarthau ar gyfer cyfarfod 25 Medi 2013 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC, Dr Elizabeth
Haywood, cyn-gadeirydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanbarthau Dinas, yr
Athro Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Cynllunio Dinesig
a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dave Gilbert, Cyfarwyddwr a Dirprwy
Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin. Camau i'w Cymryd: Cytunodd y Gweinidog i ofyn am eglurhad gan y
Gweinidog Cyllid ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cael symiau canlyniadol
Barnett o ganlyniad i Bolisi 'City Deals' Llywodraeth y DU. |
|
Papurau i’w nodi EBC(4)-35-13 (p2)
- Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Eiddo Deallusol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y
dogfennau ategol canlynol: EBC(4)-35-13
(p2) - Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Eiddo Deallus |