Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Siân Phipps Dirprwy Glerc: Ffion Emyr Bourton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
Trawsgrifiad |
|||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd dim ymddiheuriadau. |
|||
(10.00-10.15) |
Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc - cyflwyniad fideo Cofnodion: 2.2 Dangoswyd fideo yn cynnwys sylwadau gan entrepreneuriaid ifanc fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i entrepreneuriaeth ymysg pobl fianc. |
||
(10.15-11.15) |
Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc - sesiwn dystiolaeth Karl Belizaire, Rheolwr Polisi, UnLtd Amanda Everson, Rheolwr Datblygu, Live UnLtd yng Nghymru Dan Butler, Cyfarwyddwr, A Leap Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion i’r cyfarfod. Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
||
(11.30-12.30) |
Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc Dale Williams, Cyfarwyddwr, Yolk Recruitment Cofnodion: 4.1 Croesawodd
y Cadeirydd y tyst i’r cyfarfod.
Atebodd y tyst gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
|
||
Papurau i'w nodi 1. Llythyr gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth
a Thrafnidiaeth at Gadeiryddion
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter
a Busnes ynghylch Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. 2. Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth
a Thrafnidiaeth gan Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y papurau i’w nodi. Cam i’w gymryd Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y sail resymegol i’w penderfyniad i beidio â pharhau â’r Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. |