Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Policy: Siân Phipps Legislation: Liz Wilkinson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James a Joyce Watson. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
(10:00-10:45) |
Ymchwiliad i Horizon 2020 - Sesiwn dystiolaeth (drwy gyfrwng cynhadledd fideo) Dr Imelda Lambkin, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhwydwaith Cymorth Cenedlaethol Iwerddon ar gyfer FP7, Enterprise Ireland Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Imelda Lambkin i’r cyfarfod drwy gyfrwng cynhadledd fideo. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst. |
|
Egwyl (10:45-11:00) |
||
(11:00-11:45) |
Ymchwiliad i Horizon 2020 - Sesiwn dystiolaeth (drwy gyfrwng cynhadledd fideo) Luca Polizzi, Uwch-swyddog Gweithredol ar Bolisi a Chyllid yr UE, Scotland Europa Richard Tuffs, Cyfarwyddwr ERRIN (Rhwydwaith Rhanbarthau Ewrop ar gyfer Ymchwil ac Arloesi) Enw’r tyst i’w gadarnhau, Scottish Partnership Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Luca Polizzi a Richard Tuffs i’r cyfarfod drwy gyfrwng cynhadledd fideo. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. Cam i’w gymryd: Cynigiodd Luca Polizzi i ddarparu gwybodaeth am gostau cymharol y dull newydd o gefnogi cwmnïau Albanaidd o’u cymharu â’r costau o dan y rhaglen fframwaith asesu caffael cynaliadwy blaenorol, a’r effaith o ran cyfranogiad yn rhaglen fframwaith rhif 7. |